Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Tywydd rhwydwaith

Described image
Ffigur 5 Caiff tywydd rhwydwaith ei alw’n hynny am ei fod yn cyfeirio at dechnolegau sy’n effeithio arnom ni p’un a ydym ni’n eu defnyddio ai peidio, fel y tywydd!

Mae Weller (2011) yn crynhoi’r cysyniad o dywydd rhwydwaith (a fathwyd gyntaf gan Greenfield, 2010). Gan edrych ar bobl mewn dinasoedd, maen nhw’n dadlau bod technolegau newydd yn effeithio ar eich bywyd, p’un a ydych yn eu defnyddio ai peidio – maen nhw fel y tywydd. Mae Weller yn mynd ymlaen i ddisgrifio senario a allai fod yn gyfarwydd i addysgwyr:

‘Pan fyddwch yn cyrraedd, rydych yn siomedig i weld bod rhywun sydd wedi mynychu am y tair blynedd flaenorol, ac rydych wastad yn cael pryd o fwyd gydag ef, wedi aros gartref oherwydd ei fod yn gallu mynychu o bell. Yn y sesiwn agoriadol, mae’r prif siaradwr yn gwneud honiad y mae rhywun yn ei wirio a’i drosglwyddo ymlaen trwy Twitter, ac mae’n ymddangos ei fod wedi camddehongli canfyddiadau’r gwaith ymchwil. Mae’r awyrgylch yn newid cryn dipyn ac mae’r cwestiynau a ofynnir i’r siaradwr yn fwy heriol nag arfer. Mewn sesiwn arall, mae’r siaradwr yn derbyn cwestiynau gan y gynulleidfa o bell, sy’n cynnwys myfyrwyr, ac mae hyn yn cynhyrchu trafodaeth dda iawn ynglŷn â safbwynt y dysgwr.

Y noson honno, mae bar y gynhadledd yn ymddangos yn eithaf gwag, ac mae hen gydweithiwr rydych yn ei weld yn dweud wrthych fod tudalen Facebook ar gyfer y gynhadledd, a’u bod nhw wedi trefnu cyfarfod mewn bar lleol, gyda thema i’w thrafod.

Drannoeth, nid oes unrhyw gyflwyniadau yn y prynhawn; yn lle hynny, mae’n dilyn fformat anffurfiol lle mae’r cyfranogwyr yn ceisio creu cyfres o adnoddau dysgu a chysylltu â phedwar hyb o bell mewn dinasoedd gwahanol.’ (tud. 116)

Ar yr olwg gyntaf, gallai hyn ymddangos fel crynodeb negyddol o’r datblygiadau technolegol yn y gynhadledd, ond mae’r newidiadau hyn i ymddygiad pobl yn cynrychioli newidiadau go iawn i weithgaredd sydd wrth wraidd ymarfer ysgolheigaidd, ac felly’n enghraifft dda o’r math o dywydd rhwydwaith y gallem ni i gyd ei brofi yn ein bywydau dydd i ddydd fel addysgwyr.

Mae Weller yn crynhoi’r datblygiadau technolegol y mae tywydd rhwydwaith yn effeithio arnynt yn y senario hwnnw:

  • Cyfranogi o bell – mae ffrydio digwyddiadau yn caniatáu i bobl fynychu o bell ac, yn aml, gofyn cwestiynau i’r siaradwyr.
  • Y sianel gefn – mae Twitter, yn arbennig, wedi dod yn rym ar gyfer creu sgwrs sianel gefn, gyda chanlyniadau cadarnhaol a negyddol.
  • Digwyddiadau wedi’u mwyhau – erbyn hyn, mae llawer o gynadleddau’n ceisio denu cynulleidfa ehangach gan ddefnyddio cyfranogi o bell, y tu hwnt i’r cyfranogwyr arferol.
  • Cymdeithasoli – bydd pobl yn trefnu digwyddiadau cyn ac yn ystod y gynhadledd gan ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol.
  • Fformatau sesiwn amgen – gan ymateb i effaith technolegau o’r fath, mae trefnwyr cynadleddau’n dechrau defnyddio elfen wyneb yn wyneb cynadleddau i wneud mwy na chyflwyno cynnwys yn unig.

Mae defnyddio adnoddau wedi’u rhwydweithio i flogio’n fyw, trydar neu gyfleu rhyngweithio yn y gynhadledd ar y pryd yn dod yn fwy cyffredin, a chyfeirir ato fel ‘sianel gefn’ y gynhadledd (fe’ch cyflwynwyd i’r cysyniad hwn yn ystod Wythnos 1 y cwrs hwn). Mae hyn yn caniatáu i’r cyfranogwyr drafod gweithgareddau’r gynhadledd tra’u bod yn mynd rhagddynt, gyda’r rhai sydd yn y digwyddiad, a chyda phartïon eraill â diddordeb. Mae rhai cynadleddau’n gwneud y drafodaeth sianel gefn hon yn fwy gweladwy, gan gyfeirio at gwestiynau a ofynnwyd ar-lein. P’un a gaiff ei gyfleu’n ffurfiol ai peidio, un o effeithiau’r gweithgaredd hwn wedi’i rwydweithio yw ei fod yn cyflwyno ac yn cadw trafodaethau ac ymatebion i’r gynhadledd wrth iddynt ddigwydd, mewn ffordd y gellir ei chwilio ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben. Mae hyn yn ychwanegol at y recordiadau arferol ac nid yw’n cael ei reoli mor gaeth.

Gweithgaredd 2 Tywydd rhwydwaith a chi

Timing: Caniatewch oddeutu 20 munud

A chithau’n athro/athrawes sy’n mentro i’r byd ar-lein, mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r tywydd rhwydwaith o’ch amgylch. Nodwch rai meddyliau cryno mewn ymateb i bob un o’r cwestiynau canlynol:

  • Ble allech chi ddechrau chwilio am gyfleoedd rhwydweithio rhwydd a allai fod ar gael i chi nad ydych yn gwybod eu bod yn bodoli ar hyn o bryd? Ym mha un o’r rhain y byddech yn dymuno dechrau fel ‘llechwr’? A oes unrhyw rai y gallech deimlo’n ddigon hyderus i gyfranogi ynddynt yn weithredol nawr?
  • Pa weithgareddau rhwydweithio ydych chi eisoes yn cymryd rhan ynddynt y gellid eu haddasu neu ei hailffocysu i ddod â buddion rhwydweithio i chi?
  • Sut gallech chi fanteisio ar rym y ‘tywydd’ sydd eisoes o’ch amgylch er budd eich ymarfer addysgu ar-lein?

Gadael sylw

Mae rhwydweithio’n weithgaredd y mae pob athro/athrawes yn cymryd rhan ynddo, er ei fod wedi’i gyfyngu’n aml i’r cydweithwyr sy’n gweithio yn yr un sefydliad. Lluniwyd y gweithgaredd hwn i’ch helpu i amlygu llwybrau eraill ar gyfer rhwydweithio, fel y gallwch elwa o’r ‘tywydd’ sydd o’ch amgylch os dewiswch gymryd rhan ynddo.