Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Hawlfraint a rôl trwyddedau Creative Commons

Pan fydd darn o waith creadigol fel delwedd, fideo neu werslyfr yn cael ei gynhyrchu, fe allai fod gan y sawl a greodd y gwaith rai hawliau cyfreithiol sy’n cyfyngu ar allu pobl eraill i ddefnyddio neu ailddefnyddio’r deunydd hwnnw heb geisio caniatâd gan yr awdur. Gelwir hyn yn hawlfraint, ac mae’n gymwys yn awtomatig i bob darn o waith oni bai bod yr awdur yn dewis fel arall. Mae’r rhybudd hawlfraint © yn symbol cyfarwydd ar-lein. Fodd bynnag, nid yw’n ddefnyddiol o reidrwydd wrth benderfynu p’un a allwch ddefnyddio adnodd ai peidio, oherwydd bod hawlfreintiau’n dod i ben weithiau, ac mewn rhai achosion nid oes angen ei ddefnyddio mwyach – yn Unol Daleithiau America, er enghraifft, nid oes angen y symbol mwyach ar gyfer gwaith a gyhoeddwyd ar ôl mis Mawrth 1989. Nid yw absenoldeb rhybudd yn golygu o reidrwydd bod y gwaith yn gyhoeddus – i’r gwrthwyneb, mae’n rhaid tybio bod hawlfraint ar waith oni nodir fel arall. Mae eiddo deallusol yn derm ehangach sy’n cynnwys hawlfraint ac elfennau eraill fel patentau. Dyma lle mae trwyddedau Creative Commons wedi llenwi bwlch a allai fod yn ddryslyd iawn.

Gweithgaredd 2 Dehongli trwyddedau Creative Commons

Timing: Caniatewch oddeutu 20 munud
Described image
Ffigur 3 Logos Creative Commons

‘Creative Commons Kiwi’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] Mae’r fideo hwn yn esbonio’r pedwar symbol gwahanol y gallech eu gweld ar drwydded Creative Commons, a’r chwe chyfuniad posibl ohonynt. Mae’r dudalen hon hefyd yn esbonio pob un o’r trwyddedau os hoffech ddefnyddio fersiwn destun. Gwnewch eich nodiadau eich hun ar y pedwar symbol a’r chwe chyfuniad, fel y gallwch gyfeirio atynt yn y dyfodol i adnabod yr hyn y cewch ei wneud gydag adnoddau a rennir y deuwch ar eu traws ar-lein.

Gadael sylw

Mae trwyddedau Creative Commons yn rhan hanfodol o rannu neu ailddefnyddio adnoddau addysgu ar-lein. Mae angen i chi allu adnabod yn gyflym yr amodau ailddefnyddio sy’n gysylltiedig ag unrhyw wrthrych dysgu, a dylech gymhwyso trwyddedau i unrhyw waith rydych chi’n ei rannu’n ehangach hefyd, wrth gwrs.

Nawr, diolch i drwyddedau Creative Commons, pan ddeuwch o hyd i ddeunyddiau ar y we yr hoffech eu defnyddio wrth addysgu ar-lein, gallwch adnabod yn gyflym p’un a allwch ailddefnyddio’r eitem, p’un a allwch ei haddasu, p’un a allwch ei defnyddio i wneud arian, a ph’un a oes angen i chi gymhwyso trwydded union debyg i’ch gwaith chi sy’n deillio ohono.