Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Gwerthuso adnoddau agored

Described image
Ffigur 4 A yw’r deunyddiau yn addas at y diben?

Y peth nesaf y mae angen i chi ei ystyried ynglŷn â deunyddiau rydych wedi’u darganfod ar y we yw gwerthuso ansawdd a pherthnasedd y deunydd.

Mewn llawer o achosion, mae OER yn cael eu cynhyrchu’r un mor drwyadl ag unrhyw adnodd addysgol arall. Fe allent gael eu rhannu gan rai o’r addysgwyr gorau yn y maes, neu fe allent fod yn gynnyrch cydweithredu neu adborth gan addysgwyr yn fyd-eang. Ond, hyd yma, nid oes safonau na chanllawiau cyffredin ar gyfer asesu ansawdd neu gywirdeb OER. Daeth adroddiad diweddar gan yr Undeb Ewropeaidd i’r casgliad mai ychydig iawn o bolisïau neu ganllawiau cenedlaethol sy’n bodoli, hyd yma, ynglŷn â dilysu neu ardystio OER (Cedefop, 2016), heb sôn am safonau rhyngwladol neu fyd-eang.

Y cam cyntaf yn y broses hon yw defnyddio’ch gwybodaeth bynciol i wirio cywirdeb honiadau ynghylch gwybodaeth a wneir yn yr adnoddau. Mewn papurau academaidd, er enghraifft, gwelir honiadau ynghylch gwybodaeth yn aml mewn adran ‘Canfyddiadau’ ar wahân, ac fe allent gael eu hailadrodd yng nghasgliad adroddiad. A yw unrhyw eitemau sy’n cael eu cyflwyno fel ffeithiau yn wir, hyd eithaf eich gwybodaeth? A wneir priodoliadau i’r math o arbenigwyr y byddech yn eu cysylltu â’r maes gwaith hwnnw? Dylai tystiolaeth ategol gyd-fynd â phob honiad ynghylch gwybodaeth, fel arfer – dylai honiad ynghylch gwybodaeth gael ei ategu gan ymateb y gellir ei ddefnyddio i ateb y cwestiwn ‘Sut ydym ni’n gwybod hynny?’

Yn ogystal â gwirio cywirdeb ffeithiol yr adnodd, dylech wirio hygyrchedd hefyd. Byddwn yn edrych ar hyn yn fanylach yr wythnos nesaf, ond am y tro, digon yw dweud y bydd angen i unrhyw OER a ddewiswch fod yn addas i’ch holl ddysgwyr (dysgwyr presennol a dysgwyr yn y dyfodol) a pha anghenion bynnag a allai fod ganddynt. Os nad yw’r adnodd wedi cael ei greu’n hygyrch, mae’n rhaid iddo fod â thrwydded CC sy’n eich galluogi i’w addasu, fel y gallwch ychwanegu nodweddion hygyrchedd. Os yw’r drwydded yn dweud na chaniateir golygu, ac nid yw’n hygyrch, nid yw’n debygol o fod yn ddefnyddiol i chi.

Fe allai hefyd fod yn bwysig gwerthuso sut mae ffurf a chynnwys adnodd yn cyd-fynd â gweddill yr addysgu. Er enghraifft, gallai OER ar ffurf cwrs byr ar y we gael ei gyfuno â dosbarth wythnosol i greu cyfle ar gyfer dysgu cyfunol. Yn yr un modd, gallai OER ddefnyddio terminoleg neu gyflwyno cysyniadau sy’n wahanol i destun craidd presennol y myfyrwyr. Fe allai fod yn bwysig bod yn ymwybodol o hyn ac ymateb er mwyn sicrhau profiad da i’r dysgwyr.

Mae’r gallu i addasu adnoddau, neu eu cyfuno â rhai eraill, yn ganolog i OER, felly mae hyn yn aml yn cael ei gefnogi gan y trwyddedau a ddefnyddir. Fodd bynnag, fe allai gymryd cryn amser ac ymdrech i wneud addasiadau fel bod OER presennol yn briodol i ddefnydd addysgu newydd. Gallai’r diwygiadau hyn gynnwys dileu unrhyw gynnwys amhriodol, neu greu cynnwys ychwanegol i gyflwyno neu ychwanegu mwy o fanylion i’r adnodd presennol (Coughlan, Pitt, a McAndrew, 2013). Felly, agwedd arall ar werthuso OER yw ystyried a ydynt yn ddefnyddiol fel y maent, sy’n ddelfrydol, neu a fydd angen eu diwygio ac, os felly, sut y bydd hynny’n cael ei gyflawni.