Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Storfeydd OER

Mae llawer o storfeydd OER ar gael yn gyhoeddus ar y rhyngrwyd. Mae cyfran fawr o’r rhain yn arddangos OER sy’n gysylltiedig â sefydliadau neu brosiectau addysgol penodol, ond mae sawl storfa sy’n cydgasglu deunydd o ystod o ffynonellau. Dyma restr o rai ohonynt – bydd chwilio’r rhyngrwyd am ‘storfeydd OER’ yn datgelu mwy.

  • Solvonauts [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] – chwilotwr sy’n chwilio ar draws storfeydd (mae hefyd yn darparu meddalwedd storfa agored i sefydliadau sy’n dymuno sefydlu eu storfa OER eu hunain).
  • MERLOT – degau ar filoedd o ddeunyddiau dysgu penodol i ddisgyblaeth, ymarferion dysgu, a thudalennau gwe creu cynnwys, ynghyd â sylwadau cysylltiedig, a chasgliadau o nodau tudalen, sydd i gyd â’r nod o wella’r profiad addysgu o ddefnyddio deunydd dysgu. Mae’r holl eitemau hyn wedi cael eu cyfrannu gan aelodau’r gymuned MERLOT, sydd naill ai wedi awduro’r deunyddiau eu hunain, neu sydd wedi darganfod y deunyddiau, eu cael yn ddefnyddiol, ac yn dymuno rhannu eu brwdfrydedd ynglŷn â’r deunyddiau gydag eraill yn y gymuned addysgu a dysgu.
  • OpenCourseWare MIT – cyhoeddiad ar y we o bron holl gynnwys cyrsiau MIT. Mae OpenCourseWare (OCW) yn agored ac ar gael i’r byd ac mae’n weithgaredd parhaol gan MIT.
  • OpenLearn – storfa deunyddiau agored a gynhyrchwyd gan y Brifysgol Agored, sydd hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill trwy ddarparu cyrsiau ac adnoddau rhad ac am ddim sy’n cefnogi eu cenhadaeth i agor cyfleoedd addysgol i fwy o bobl mewn mwy o leoedd.
  • OpenStax – degau ar filoedd o wrthrychau dysgu, wedi’u trefnu’n filoedd o lyfrau tebyg i werslyfr mewn llu o ddisgyblaethau, sydd i gyd ar gael yn rhwydd ar-lein ac yn gallu cael eu lawrlwytho (sylwer: enw’r adnodd hwn oedd Rice Connexions yn flaenorol).
  • Saylor – bron 100 o gyrsiau hyd llawn ar lefel coleg a phroffesiynol, y mae pob un ohonynt ar gael nawr – ar eich cyflymder eich hun, yn ôl eich amserlen eich hun, ac yn rhad ac am ddim.
  • AMSER: Storfa Addysg Mathemateg a Gwyddoniaeth Gymhwysol – porth adnoddau a gwasanaethau addysgol a grëwyd yn benodol i’w defnyddio gan y rhai hynny mewn Colegau Cymunedol a Thechnegol, ond y caiff unrhyw un eu defnyddio am ddim.
  • Internet Archive – llyfrgell sy’n cynnwys cannoedd o gyrsiau, darlithiau fideo a deunyddiau ategol rhad ac am ddim o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau a Tsieina.
  • OER Commons – cynnwys dysgu ac addysgu o bob rhan o’r byd sydd ar gael i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim.
  • Open Course Library – casgliad o ddeunyddiau cwrs y gellir eu rhannu, gan gynnwys meysydd llafur, gweithgareddau cwrs, darlleniadau, ac asesiadau a ddyluniwyd gan dimau o aelodau cyfadran coleg, dylunwyr cyfarwyddiadol, llyfrgellwyr, ac arbenigwyr eraill.

Chwilio Delweddau Google

Yn y gosodiadau ar dudalen ganlyniadau Chwiliad Delweddau Google, gallwch chwilio am ddelweddau a labelwyd i’w hailddefnyddio. Cynhaliwch eich chwiliad yn gyntaf, a phan fydd eich tudalen ganlyniadau’n dangos, cliciwch ar y gwymplen Offer. Bydd hyn yn dangos bar offer newydd o opsiynau, ac un ohonynt yw ‘Hawliau defnydd’ – trwy glicio ar hwn, gallwch ddewis naill ai ‘Wedi’i labelu i’w ailddefnyddio’ neu ‘Wedi’i labelu i’w ailddefnyddio gydag addasiad’, yn unol â’ch dewisiadau. (Gallwch hefyd ddewis delweddau yn ôl maint, lliw ac amser cyhoeddi, os dymunwch). Dylai eich ffenestr ganlyniadau ail-lwytho. Mewn egwyddor, dylai’r delweddau a ddangosir yn awr fod yn rhai y gellir eu hailddefnyddio. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y gallwch gopïo a gludo’n syml heb briodoli. Pan fyddwch yn dod o hyd i ddelwedd yn eich canlyniadau Google yr hoffech ei defnyddio, cliciwch arni, a bydd bar du yn ymddangos sy’n cynnwys opsiwn i ymweld â’r safle gwreiddiol. Cliciwch ar y ddolen hon – y gobaith yw y bydd y safle lletyol yn egluro pa opsiynau trwyddedu ailddefnyddio sy’n berthnasol i’r ddelwedd. Os nad yw, ni ddylech ddefnyddio’r ddelwedd honno, oherwydd efallai na fydd ei phriodoli yn unig yn ddigonol i’ch amddiffyn rhag torri hawlfraint.

YouTube

Mae dolen ‘Dangos Mwy’ o dan bob fideo ar YouTube. Pan fyddwch yn clicio arni, dangosir y drwydded sy’n gysylltiedig â’r fideo. Mae trwydded Creative Commons yn gysylltiedig â rhai fideos (gall y sawl sy’n llwytho’r fideo ddewis yr opsiwn hwn wrth roi ei fideo ar YouTube). Fodd bynnag, mae gan y rhan fwyaf Drwydded Safonol ddiofyn YouTube, sy’n dweud ‘ni chewch gopïo, atgynhyrchu, dosbarthu, trawsyrru, darlledu, arddangos, gwerthu, trwyddedu, na manteisio fel arall ar unrhyw Gynnwys at unrhyw ddibenion eraill heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan YouTube neu drwyddedwyr unigol y Cynnwys’. Felly, os hoffech ailddefnyddio fideo YouTube sydd â Thrwydded Safonol YouTube, yr unig opsiwn sydd ar gael i chi yw ceisio cysylltu â’r sawl a’i lanlwythodd i gael caniatâd.

Mae YouTube yn darparu gosodiad i hidlo’ch canlyniadau chwilio i ddangos fideos sydd â thrwydded CC yn unig. Yn gyntaf, chwiliwch am fideos ar y thema o’ch dewis, yna dewiswch yr opsiwn ‘Hidlo’. O dan y pennawd ‘Nodweddion’, mae opsiwn ‘Creative Commons’, sy’n lleihau eich rhestr ganlyniadau i fideos sydd â thrwydded CC yn gysylltiedig â nhw yn unig.

Vimeo

Mae dolen ‘Mwy’ o dan bob fideo ar Vimeo. Os yw’r lanlwythwr wedi cysylltu trwydded â’i fideo, bydd y math o drwydded sy’n berthnasol yn cael ei restru yma. Os na nodir trwydded, mae’n rhaid i chi dybio na ellir ailddefnyddio’r gwaith heb ganiatâd penodol y lanlwythwr, a dylech geisio cysylltu ag ef os hoffech ailddefnyddio’r deunydd. Gallwch fireinio chwiliad ar y safle Vimeo i ddangos fideos sydd â thrwydded CC yn unig. Yn gyntaf, chwiliwch gan ddefnyddio’r prif flwch chwilio. Pan fydd gennych dudalen ganlyniadau, o dan ‘Mireinio yn ôl’ yn y golofn chwith, cliciwch ar ‘Mwy’. Wrth sgrolio i lawr, fe ddylech weld adran Trwydded lle y gallwch hidlo canlyniadau’ch chwiliad yn ôl pa drwyddedau CC sy’n berthnasol i’r ffordd rydych yn bwriadu defnyddio’r fideo.

Flickr

Mae Flickr yn datgan yn eglur pa ddelweddau y gallwch eu hailddefnyddio neu beidio. Pan fyddwch yn chwilio ar wefan Flickr, yr opsiwn amlycaf yn y gwymplen hidlo ar y dudalen ganlyniadau yw ‘Unrhyw Drwydded’. Gellir newid hwn, trwy gyfrwng cwymplen, i hidlo canlyniadau ar gyfer amrywiaeth o opsiynau Creative Commons. Mae symbol © neu symbol CC o dan bob delwedd ar Flickr, a bydd clicio arno’n dangos yr union delerau defnydd ar gyfer y ddelwedd honno.

Os hoffech gael gwybod am ddatblygiadau yn ymwneud ag OER a dod yn rhan o’r gymuned, cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr OpenLearn. Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig sawl cwrs sy’n ymdrin â’r maes hwn yn fanylach. Rhoddir mwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn yng nghasgliad y cwrs ar ddiwedd Wythnos 8.

Gweithgaredd 3 Defnyddio storfeydd OER

Timing: Caniatewch oddeutu 20 munud

Dewiswch bwnc sydd o ddiddordeb i chi a threuliwch rywfaint o amser yn chwilio am adnoddau arno. Ceisiwch ddefnyddio storfa OER o’r rhestr fwled ar frig y dudalen hon, yn ogystal ag un o’r safleoedd eraill a archwiliwyd uchod.

Ceisiwch ddod o hyd i un neu ddau o adnoddau o’ch chwiliad, ac yna treuliwch ychydig funudau’n ystyried:

  1. Ansawdd yr adnodd hwn:
    • Pwy sydd wedi’i greu?
    • A yw’n edrych yn gywir ac wedi’i gyflwyno’n dda?
    • A oes unrhyw adolygiadau neu wybodaeth gan addysgwyr sydd wedi’i ddefnyddio?
  2. Priodoldeb yr adnodd hwn i’ch cynulleidfa:
    • A oes angen ei olygu neu ei gyflwyno?
    • A fyddai’n cyfuno’n dda ag unrhyw ddeunyddiau eraill a ddefnyddir?
  3. Y drwydded:
    • A yw’n glir sut mae’r adnodd wedi’i drwyddedu?
    • Beth mae hyn yn caniatáu i chi ei wneud ag ef?
    • A oes angen i chi briodoli neu ofyn am unrhyw ganiatâd?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Gobeithio y byddwch wedi dod o hyd i rywbeth a allai fod yn ddefnyddiol, ond fe allech hefyd fod wedi sylweddoli bod llawer ar gael ar gyfer rhai pynciau a’i bod yn cymryd amser i ddod o hyd i’r adnoddau mwyaf addas.

Bydd ystyried ansawdd, priodoldeb a materion trwyddedu wrth i chi chwilio am adnoddau yn eich helpu i arbed amser, ac yn cynyddu budd wrth ddefnyddio adnoddau a grëwyd gan eraill.