2 Gwneud eich deunyddiau ar-lein yn hygyrch
Mae llawer o wahanol fathau o anabledd, a llawer o ffyrdd y mae pobl ag anableddau’n rhyngweithio â deunyddiau dysgu. Felly, mae’n anodd cyffredinoli ynglŷn â’r holl bethau y mae angen eu hystyried mewn perthynas â dysgwyr sydd â namau neu gyflyrau penodol. Fodd bynnag, mae yna agweddau cyffredin yn gysylltiedig â chyflawni hygyrchedd mewn deunyddiau dysgu. Dylech sicrhau:
- bod deunyddiau’n glir, wedi’u trefnu’n gyson ac yn esboniadol
- bod modd cael at wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn elfennau gweledol (e.e. delweddau, fideo, a thestun) heb fod angen golwg
- bod modd cael at wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn elfennau clywedol (e.e. clipiau fideo neu sain) heb fod angen clyw
- bod modd addasu elfennau sy’n cael eu harddangos i weddu i anghenion y defnyddwyr (e.e. chwyddo, cyferbynnedd lliw)
- bod modd cyflawni tasgau heb fod angen sgiliau mewnbynnu testun yn gyflym, deheurwydd dwylo, neu graffter gweledol.
Nid yw bodloni’r gofynion hyn yn golygu bod rhaid i chi osgoi defnyddio elfennau na all rhai pobl eu defnyddio (fel fideo, er enghraifft). Yn hytrach, dylech sicrhau bod pawb yn gallu cael at y wybodaeth rydych yn ei chyfleu, er hynny mewn ffyrdd gwahanol neu drwy gyfryngau gwahanol.