Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Gwneud elfennau gweledol yn hygyrch

Rhowch ddisgrifiadau testun amgen cryno o’r cynnwys a gyflwynir mewn delweddau. Dylai hyn ganolbwyntio ar ddiben y ddelwedd mewn perthynas â’r pwyntiau addysgu, yn hytrach na disgrifiad o bob nodwedd weledol. Felly, gallai’r testun amgen fod yn wahanol ar gyfer yr un ddelwedd a ddefnyddir mewn dwy ffordd wahanol. Er enghraifft, mae Ffigur 5 isod yn dangos lleoliadau prif ddinasoedd ac afonydd Ffrainc. Fe allai fod â dau ddisgrifiad testun amgen eithaf gwahanol, yn dibynnu ar ddiben y defnydd a wneir ohono:

Described image
Ffigur 5 Mae’n bwysig ystyried y pwynt addysgu wrth ysgrifennu disgrifiadau eraill o destun
  • (mewn gwers ar afonydd) Map o Ffrainc, sy’n dangos bod dalgylchoedd pedair afon fawr (Seine, Loire, Garonne a Rhône) yn draenio mwy na thri chwarter o dir mawr Ffrainc. Mae Afon Seine yn draenio tua’r gogledd-orllewin yn bennaf i’r Sianel, mae Afon Rhône yn draenio tua’r de i Fôr y Canoldir, ac mae Afonydd Loire a Garonne yn draenio tua’r gorllewin yn bennaf i’r Môr Iwerydd. Mae blaenddyfroedd Afon Garonne yng ngodrefryniau’r Pyreneuau, mae tarddiad Afon Rhône yn yr Alpau, mae Afon Loire yn dechrau yn y Massif Centrale ac mae Afon Seine yn codi yn llwyfandir Langres yng ngogledd-ddwyrain y wlad.
  • (mewn gwers ar aneddiadau) Map o Ffrainc, sy’n dangos bod pump o’r ugain dinas fwyaf yn Ffrainc, yn ôl poblogaeth, yn borthladdoedd. Mae Le Havre, Brest, Marseille, Toulon a Nice oll yn ddinasoedd porthladd, tra bod Paris a Bordeaux yn brif borthladdoedd mewndir. Mae’r rhai sy’n weddill o’r ugain dinas fwyaf wedi’u lleoli ar afonydd neu’n agos iddynt, ond nid ydynt yn cael eu hystyried yn ddinasoedd porthladd mawr.

Sylwch nad yw’r disgrifiad cyntaf yn sôn am y dinasoedd a ddangosir, ac nad yw’r ail yn sôn am afonydd penodol. Wrth greu testun amgen, mae’n bwysig canolbwyntio’n unig ar yr hyn y mae angen i’r dysgwyr ei wybod am y ddelwedd, a pheidio â gorlenwi’ch disgrifiad â gwybodaeth ddiangen. Trwy wneud hyn, daw’r testun amgen hwn yn gymorth dysgu gwerthfawr i’r holl ddysgwyr hefyd, gan eich bod yn crynhoi elfennau allweddol y ddelwedd iddynt.

Nid oes angen ychwanegu testun amgen at ddelwedd bob amser – os yw’r ddelwedd yn addurnol yn unig ac nid yw’n gwasanaethu diben addysgol, nid oes angen i chi ychwanegu testun amgen. Fodd bynnag, os ydych yn creu tudalen we, mae’n rhaid i chi roi ‘tag dim testun ychwanegol’ (alt=””) iddo o hyd i sicrhau bod rhaglenni darllen sgrin yn gwybod y dylent ei hepgor, neu fel arall byddant yn dweud ‘delwedd’, gan adael y dysgwr i feddwl tybed beth ydoedd.

Mae hefyd angen sicrhau bod cynnwys fideo neu animeiddiadau’n hygyrch i’r rhai hynny na allant ei weld. Fel arfer, gwneir hyn trwy ddarparu trawsgrifiad. Yn dibynnu ar natur y cynnwys fideo, fe allai fod yn briodol i’r trawsgrifiad ailadrodd unrhyw eiriau sy’n cael eu llefaru yn y fideo yn unig (deialog, sylwebaeth ac yn y blaen). Fodd bynnag, weithiau bydd angen ychwanegu manylion disgrifiadol hefyd o natur debyg i’r testun amgen ar gyfer delweddau. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan nad yw’r elfen lafar yn cynnwys gwybodaeth weledol allweddol (er enghraifft, os yw rhywun yn arddangos techneg ac nid yw’n disgrifio pob cam oherwydd ei fod yn credu bod y gynulleidfa’n gallu gweld yr hyn y mae’n ei wneud).

Gwnewch yn siŵr fod modd i’r defnyddiwr reoli pryd y mae elfennau gweledol yn cael eu chwarae – dychmygwch ba mor anodd ydyw i wrando ar eich rhaglen darllen sgrin yn dehongli’r hyn sydd ar dudalen we ar yr un pryd ag y mae fideo’n dechrau chwarae’n awtomatig ac ni allwch ei atal.

Gweithgaredd 2 Disgrifio delweddau ar gyfer y rhai hynny na allant eu gweld

Timing: Caniatewch oddeutu 30 munud

Sylwch, oherwydd y deilliant dysgu a fwriedir, nad yw’r gweithgaredd hwn ei hun yn hygyrch i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin. Fodd bynnag, tybiwn y byddant eisoes yn gyfarwydd â chysyniad testun amgen, sy’n cael ei archwilio yma.

Described image
Ffigur 6 Delweddau sy’n disgrifio
  • Mae’r ddelwedd yn dangos rhan o stryd canol dinas nodweddiadol yn Kandy, Sri Lanka. Yr enw ar y cerbydau â’r toeon meddal du yw ‘tuk-tuks’. Lluniwch destun amgen a allai fod yn addas i ddefnyddio’r ddelwedd:
    • i.Mewn trafodaeth ynglŷn â’r dulliau teithio a ddefnyddir yn gyffredin yn Kandy.
    • ii.Mewn trafodaeth ynglŷn â’r mathau o fusnesau y gellid eu gweld gyda’i gilydd ar stryd nodweddiadol yn Kandy.
    • iii.Mewn trafodaeth ynglŷn â chyflwr adeiladau ar stryd nodweddiadol yn Kandy.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Dylai eich testun amgen gynnwys elfennau tebyg i’r rhain:

  • i.Dyma lun o stryd canol dinas nodweddiadol yn Kandy. Mae cerbydau wedi’u parcio y tu allan i amrywiaeth o siopau ar hyd y stryd. Gellir gweld dau feic modur, un car bach, un cerbyd aml-deithiwr a phedwar tuk-tuk lliwgar. Gallai hyn ddangos bod cerbydau bach sy’n gallu gwau i mewn ac allan o draffig yn boblogaidd yn Kandy.
  • ii.Dyma lun o stryd canol dinas nodweddiadol yn Kandy. Mae adeiladau wedi’u gwasgu ynghyd heb fylchau rhyngddynt, a phob un o led un ystafell. Mae siop sy’n gwerthu gwydr ar gyfer lluniau, drysau a ffenestri nesaf at siop sy’n gwerthu lledr a gorchuddion llawr. Wrth ei hymyl, mae siop sydd ag amrywiaeth liwgar o deganau plant a pheli yn hongian uwchben y ffenestr a’r drws. Nesaf ati, mae gwerthwr bleinds ffenestri, ac mae’r siop wrth ei hymyl yn arbenigo mewn rhannau beiciau modur. Yn olaf, ym mhen pellaf y llun, mae siop gemwaith.
  • iii.Dyma lun o stryd canol dinas nodweddiadol yn Kandy. Mae adeiladau wedi’u gwasgu ynghyd heb fylchau rhyngddynt, pob un o led un ystafell, a dau neu dri llawr o uchder. Er bod blaen y siopau ar lefel y stryd mewn cyflwr da gan mwyaf, mae lefelau uchaf llawer o’r adeiladau’n llymach ac angen eu hatgyweirio. Mae cafnau dŵr ac ati yn adfeiliedig yn gyffredinol, ac ar goll mewn mannau, ac mae’r toeon teils sydd i’w gweld yn anwastad ac wedi cael eu trwsio gyda bwrdd ffibr rhychiog. Mae’r fframiau a’r caeadau ffenestri pren yn dechrau camdroi a ffitio’n wael. Mae’n ymddangos bod yr adeilad ar ymyl dde’r llun wedi’i orchuddio gan sgaffaldiau a rhwyd las.

Mae’n amlwg y gellir ysgrifennu’r testun amgen mewn sawl ffordd wahanol, er mwyn rhoi’r manylion sy’n berthnasol i gyd-destun ei ddefnydd yn unig i’r dysgwr. Gallai disgrifio’r holl fanylion posibl i’r holl ddysgwyr wastraffu eu hamser a chreu tasg anodd iddynt o geisio gwahanu’r manylion perthnasol oddi wrth y rhai amherthnasol.