Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Gwirio hygyrchedd deunyddiau

Pan fyddwch yn creu’r deunyddiau dysgu y byddwch yn eu defnyddio ar-lein, mae’n gymharol rwydd sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl (gweler Adran 2 o ddeunyddiau’r wythnos hon). Fodd bynnag, bydd hefyd angen i chi allu asesu ac, os bydd angen, addasu hygyrchedd deunyddiau pobl eraill yr ydych eisiau eu hailddefnyddio wrth addysgu. Er bod adnoddau awtomataidd ar gael sy’n rhoi rhyw fath o syniad o hygyrchedd adnodd (er enghraifft nodwedd Gwiriwr Hygyrchedd MS Office [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) neu adnoddau gwirio hygyrchedd tudalen we (er enghraifft AChecker neu WAVE), mae’n rhaid i chi bob amser ddefnyddio’ch barn a’ch synnwyr cyffredin eich hun wrth ystyried allbwn yr adnoddau hyn, a’u defnyddio fel un rhan yn unig o asesiad mwy cyfannol o’r adnoddau.

Yn rhyfeddol, ychydig iawn o ganllawiau sydd ar gael ar sut i werthuso hygyrchedd OER, ond fe allai fod yn ddefnyddiol i chi edrych ar y ddogfen hon ‘Rubrics for Evaluating Open Education Resource Objects’ (Achieve, 2011) sy’n cynnwys amrywiaeth o ganllawiau, ac mae Rubric VIII (tudalennau 10 i 11 y ddogfen) yn rhoi rhai awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â beth i gadw llygad amdano. Fodd bynnag, mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar Unol Daleithiau America, ac yn cyfeirio at ddeddfwriaeth a sefydliadau nad ydynt yn berthnasol, o bosibl, os ydych yn rhywle arall yn y byd.

Mae OpenWashington (2017) yn awgrymu chwe chwestiwn hygyrchedd allweddol i’w gofyn wrth ystyried ailddefnyddio deunyddiau dysgu:

  • A yw’r holl gynnwys ysgrifenedig wedi’i gyflwyno fel testun, fel bod myfyrwyr sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol yn gallu ei ddarllen?
  • Os yw’r deunyddiau’n cynnwys delweddau, a yw’r wybodaeth bwysig o’r delweddau yn cael ei chyfleu’n ddigonol trwy destun amgen cysylltiedig?
  • Os oes cynnwys sain neu fideo yn y deunyddiau, a ddarperir capsiynau neu drawsgrifiadau ohono?
  • Os oes strwythur gweledol clir i’r deunyddiau, gan gynnwys penawdau, is-benawdau, rhestrau a thablau, a yw’r strwythur hwn wedi’i godio’n briodol fel ei fod yn hygyrch i fyfyrwyr dall sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin?
  • Os yw’r deunyddiau’n cynnwys botymau, rheolyddion, llusgo a gollwng neu nodweddion rhyngweithiol eraill a weithredir gan lygoden, a all myfyrwyr nad ydynt yn gallu defnyddio llygoden eu gweithredu gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig?
  • A yw’r deunyddiau’n osgoi cyfleu gwybodaeth gan ddefnyddio lliw yn unig (e.e. mae’r llinell goch yn golygu X, mae’r llinell werdd yn golygu Y)?

Fel arfer, mae’n eithaf syml addasu nodweddion fel maint y ffont neu gyfuniadau lliwiau mewn OER, ac ychwanegu neu ddiwygio testun amgen ar gyfer delweddau. Os hoffech ddefnyddio fideo nad yw’n cynnwys capsiynau (neu nad yw yn eich iaith chi), mae sawl opsiwn ar gael i chi:

  • O ran fideos YouTube, cyfrannwch eich capsiynau eich hun: edrychwch ar y dudalen gymorth YouTube hon i gael cyngor (cofiwch y cyngor yn Adran 2.3 ynglŷn ag ansawdd capsiynau awtomataidd).
  • O ran TED Talks, cysylltwch â’r gymuned darparwyr capsiynau gwirfoddol.
  • Defnyddiwch adnodd meddalwedd rhad ac am ddim (er enghraifft Amara neu Dotsub) i greu eich capsiynau eich hun.