Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Deall adborth

Mae gwaith ymchwil wedi archwilio’r data a gafwyd fel adborth gan fyfyrwyr mewn sawl ffordd. Nid yw’r canfyddiadau wedi bod yn gyson bob tro, ond maent yn darparu rhai ystyriaethau defnyddiol ar gyfer ymarfer.

Wrth grynhoi sawl astudiaeth, daeth Johnson (2003) i’r casgliad bod athrawon sy’n marcio’n fwy hael yn cael sgorau uwch mewn gwerthusiadau myfyrwyr fel mater o drefn, a bod myfyrwyr sy’n cael graddau uwch yn rhoi adborth mwy ffafriol hefyd. Canfu Centra (2003) fod cyrsiau mwy heriol yn cael sgorau is na chyrsiau ‘haws’. O ystyried y ffactorau hyn, mae Parker (2013) yn mynd ymlaen i ystyried tri modd o asesu effeithiolrwydd addysgu ac ansawdd cwrs sy’n llai tebygol o syrthio i fagl y tueddiadau hyn:

  • hunanadolygiadau athrawon wedi’u seilio ar dystiolaeth.
  • arsylwadau gan gymheiriaid.
  • adolygiadau allanol.

Os gwnaethoch chi wylio’r fideo sy’n dangos yr Athro Bart Rienties yn trafod dadansoddeg dysgu yn yr adran flaenorol, efallai y byddwch yn cofio nad yw gwaith ymchwil sy’n defnyddio data o’r Brifysgol Agored yn dangos cydberthynas rhwng cyrhaeddiad a bodlonrwydd. Mae’r data bodlonrwydd hwn yn cael ei gasglu trwy arolwg a roddir i’r myfyrwyr tua diwedd y cwrs, ond cyn iddynt gael eu gradd derfynol. Mae’n bosibl bod amseru’r arolwg yn gynharach yn dileu effaith uniongyrchol graddau ar fodlonrwydd. Felly, efallai bod angen i ni feddwl yn ofalus ynglŷn â phryd a sut y gofynnwn am adborth.

Mae myfyrwyr yn meddwl am gyrsiau ar-lein mewn ffordd wahanol i gyrsiau traddodiadol. Wrth gymharu cyrsiau MBA ar-lein ac wyneb yn wyneb, canfu Cao a Sakchutchawan (2011) er nad oedd gwahaniaeth mewn cyfraddau llwyddo rhwng myfyrwyr cyrsiau ar-lein a myfyrwyr cyrsiau wyneb yn wyneb, adroddodd y myfyrwyr MBA ar-lein eu bod yn llai bodlon â’u cyrsiau. Archwiliodd Song et al. (2004) adborth gan fyfyrwyr graddedig ar-lein, a daeth i’r casgliad bod dyluniad y cwrs a rheoli amser yn elfennau allweddol o ddysgu ar-lein llwyddiannus, tra bod diffyg cymuned a phroblemau technegol yn fwyaf heriol i ddysgwyr ar-lein.

Mae dyluniad cyrsiau ar-lein, a’r ffyrdd y mae hyfforddwyr yn gweithredu, yn effeithio ar ganfyddiadau myfyrwyr ohonynt. Mae Kauffman (2015) yn dwyn ynghyd ystod o astudiaethau sy’n archwilio llwyddiant dysgu ar-lein mewn amryw gyd-destunau, ac mae’n dod i’r casgliad ‘y dylai cyrsiau gael eu strwythuro o amgylch deunyddiau darllen, darlithiau ac aseiniadau a drefnwyd yn unedau gyda nodau dysgu clir mewn golwg’. Mewn geiriau eraill, mae angen i hyfforddwyr cyrsiau sicrhau bod yr amcanion yn cyd-fynd â’r dulliau cyfarwyddol, y gweithgareddau dysgu a’r dulliau asesu (Blumberg, 2009). Dylai hyfforddwyr roi adborth amserol a gwasanaethu fel hwyluswyr trafod a rhyngweithio, fel y gwnânt mewn cyrsiau traddodiadol. Dylai cyrsiau ddarparu cyfleoedd i gymheiriaid gydweithio a rhannu syniadau er mwyn datblygu cymuned ar-lein o ddysgwyr, yn hytrach na theimladau o ynysigrwydd (Song et al., 2004). Defnyddiodd Otter et al. (2013) holiaduron i bennu gwahaniaethau mewn canfyddiad rhwng cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb, ymhlith myfyrwyr a staff. Dangosodd y canfyddiadau fod mwy o fyfyrwyr na staff o’r farn bod cyrsiau ar-lein yn fwy hunangyfeiriedig, a bod rhaid i fyfyrwyr ar-lein fod yn fwy parod i’w haddysgu eu hunain. Roedd myfyrwyr ar gyrsiau ar-lein yn teimlo’n fwy datgysylltiedig oddi wrth staff a chydfyfyrwyr nag yr oedd staff yn credu y byddent yn teimlo. Hefyd, mae gan fyfyrwyr ganfyddiad is o rôl yr athro/athrawes mewn cyrsiau ar-lein na staff.

Gweithgaredd 2 Defnydd effeithiol o holiaduron

Timing: Caniatewch oddeutu 30 munud

Lluniwch hyd at bum cwestiwn y credwch y byddent yn darparu adborth defnyddiol i chi gan eich myfyrwyr. Wrth wneud hyn, meddyliwch am y canlynol:

  • Sut byddech yn sicrhau nad yw’r holiadur yn arwain y myfyrwyr i ymateb mewn ffordd benodol?
  • A oes gan eich sefydliad holiadur adborth cyffredin sy’n cael ei roi i fyfyrwyr? Os felly, a oes cwestiynau y gallwch eu cymryd ohono? A yw’n briodol i addysgu ar-lein?
  • Pa fath o ymatebion yr hoffech eu cael? (Er enghraifft, cwestiynau caeëdig ar raddfa, neu sylwadau agored, neu gymysgedd o’r ddau?)
  • Sut byddech chi’n dadansoddi’r canlyniadau?
Described image
Ffigur 4 Mae myfyrio ar eich arfer addysgu yn bwysig
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae’r gweithgaredd hwn yn eich helpu i feddwl am un set benodol o ddata yr hoffech ei chael, a sut gallech fynd ati. Bydd angen ystyried y cwestiynau a ofynnir yn ofalus iawn i sicrhau bod y data a gynhyrchir yn ddefnyddiol i chi.