Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Wythnos 8: Gwerthuso newidiadau a gwella arfer

Cyflwyniad

Described image
Ffigur 1 Caniatâd i roi cynnig arni! Dechrau tynnu llun ffigur

Yn yr wythnos olaf hon, byddwn yn archwilio ffyrdd o fonitro, gwerthuso a dadansoddi eich addysgu ar-lein.

Mae addysgu wyneb yn wyneb yn aml yn dibynnu ar arsylwi myfyrwyr yn uniongyrchol i werthuso eu hymddygiad, ond mae rhywfaint o’r ‘gweithredu’ mewn addysgu ar-lein yn fwy anodd ei weld. Fodd bynnag, mae addysgu ar-lein yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio data ac ymgysylltu â dysgwyr mewn ffyrdd y gellir eu hymgorffori’n haws nag sy’n bosibl mewn cyd-destun ystafell ddosbarth. Er enghraifft, gall addysgu ar-lein fanteisio ar ‘olion traed’ yr athro/athrawes a’r dysgwyr, sy’n cael eu dal fel data yn y byd ar-lein. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i wneud mwy o ddefnydd o ddata am ymddygiad a pherfformiad y dysgwr. Gall systemau rheoli dysgu gofnodi data fel presenoldeb mewn tiwtorialau, ymatebion cwis, sawl gwaith yr edrychwyd ar ddeunyddiau, amser a dreuliwyd ar weithgareddau penodol a mwy. Mae’r maes ‘dadansoddeg dysgu’ wedi datblygu ar sail dealltwriaeth o bosibiliadau gweithio gyda data o’r fath, gan gynnwys ei heriau a’i risgiau. Mae’n faes cymhleth sy’n parhau i ddatblygu, ond byddwch yn dechrau’r wythnos hon gyda syniad o sut gall dadansoddeg dysgu fod yn arf gwerthfawr i chi.

Mae cael adborth a myfyrio ar ymarfer yn bwysig i athrawon a dysgwyr, ac mae hwn yn faes arall lle mae addysgu ar-lein yn cynnig cyfleoedd penodol. Felly, byddwn yn disgrifio rhai dulliau cyffredin ar gyfer adborth ac yn edrych ar rai strategaethau i annog myfyrio trwy weithgareddau sydd wedi’u hymgorffori yn y dysgu.

Dylech hefyd ddatblygu’r gallu i wella eich arferion addysgu ar-lein. I’ch helpu i wneud hyn, byddwn yn archwilio’r syniad o gynnal ‘ymchwil weithredu’ fel ymarferydd.

Myfyrdodau gan athrawon

Gadewch i ni weld beth mae gan Sarah H. i’w ddweud am werthuso ei haddysgu ar-lein. Gallwch wylio'r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   hon yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hon yn Gymraeg.

Erbyn diwedd yr wythnos hon, fe ddylech allu:

  • deall sut y gellir defnyddio dadansoddeg dysgu i werthuso ymddygiad dysgwyr
  • casglu a deall adborth gan fyfyrwyr
  • cymhwyso rhai strategaethau ar gyfer ymgorffori myfyrio yn eich addysgu ar-lein
  • cynllunio prosiect ymchwil weithredu ar gyfer ysgoloriaeth sy’n ceisio gwella eich addysgu ar-lein.