Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cyflwyniad

Dechreuwch sgwrs am ddatganoli ac mae'n anochel y bydd rhywun yn defnyddio'r ymadrodd 'proses yn hytrach na digwyddiad'. Er bod hyn yn ystrydeb o bosibl, mae hefyd yn wir iawn. Diben y cwrs am ddim, Deall datganoli yng Nghymru, yw eich helpu i ddeall sefyllfa bresennol y setliad datganoli yng Nghymru a'r digwyddiadau sydd wedi llywio'r setliad hwnnw.

Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu'n dair rhan: mae'r rhan gyntaf yn cyflwyno safbwyntiau prif bleidiau gwleidyddol Cymru cyn olrhain trywydd y setliad datganoli rhwng 1997 a 2021. Mae'r ail ran yn ymchwilio i'r prif faterion sy'n wynebu datganoli yn y Gymru sydd ohoni. Mae'r rhan olaf yn ystyried y gydberthynas rhwng datganoli a phleidleiswyr yng Nghymru.

Nodyn ar derminoleg

Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd yr enw ar Senedd Cymru rhwng 1999 a 2020. Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd yr enw ar Lywodraeth Cymru tan 2011. Defnyddir yr enwau hyn wrth wneud cyfeiriadau hanesyddol.

Geirfa

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys rhestr termau sy'n diffinio rhai termau sydd yn anghyfarwydd o bosibl. Weithiau byddwch yn dod o hyd i dermau sydd wedi'u hamlygu yn y testun – bydd clicio arnynt yn mynd â chi at y diffiniad yn y rhestr termau. Gallwch hefyd symud i'r rhestr termau â llaw ar unrhyw adeg, ar ddiwedd pa adran bynnag rydych yn ei hastudio.