Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Tegwch

Mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn egluro fformiwla Barnett fel a ganlyn:

The devolved administrations in Scotland, Wales and Northern Ireland receive grants from the UK Government that fund most of their spending. The largest such grant is the ‘block grant’.

The Barnett formula calculates the annual change in the block grant. The formula doesn’t determine the total size of the block grant just the yearly change. For devolved services, the Barnett formula aims to give each country the same pounds-per-person change in funding.

The Barnett formula takes the annual change in a UK Government department’s budget and applies two figures that take into account the relative population of the devolved administration (population proportion) and the extent to which the UK department’s services are devolved (comparability percentage). The calculation is carried out for each UK department and the amount reached is added to the devolved administrations’ block grant.

(Keep, 2020)
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 2 Cyfrifiad fformiwla Barnett

Mae fformiwla Barnett wedi bod yn bwnc dadleuol ers tro. Cafodd ei dyfeisio yn 1978 gan Joel Barnett, sef Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd. Mae'n defnyddio gwaelodlin y cytunwyd arno ar y pryd ac nad yw wedi'i adolygu ers hynny, a chaiff ei addasu bob blwyddyn yn ôl swm a bennir gan y Trysorlys a'i rannu yn ôl y cyfrannau cymharol o'r boblogaeth yn y gwahanol wledydd datganoledig.

Ar y sail hon, mae Cymru yn cael tua 6% ac mae'r Alban yn cael 10% o bob addasiad. Mae'r cyfanswm a ddyrennir yn unol â'r fformiwla hon yn amrywio yn unol â'r blaenoriaethau cyllidebol a bennir bob blwyddyn gan Ganghellor Trysorlys y DU yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.

Yn 2015, yn dilyn adolygiad Comisiwn Holtham o gyllid datganoledig, cyflwynwyd 'arian gwaelodol' fel ffactor 'seiliedig ar anghenion' i gyfrifiad Barnett o gyllid Cymru. Mae hwn yn sicrhau nad yw cyllid Cymru byth yn syrthio islaw lefel sy'n gysylltiedig ag anghenion.

Nid yw'n syndod bod posibilrwydd o ddadlau di-ben-draw ynglŷn â chyfiawnder y canlyniad, a ph'un a yw'n cyfateb yn ddigonol i anghenion presennol. Mae hwn yn fater o ddiddordeb y tu hwnt i Gymru – gall poblogaeth gyfan y DU ffurfio barn ynglŷn â sut y caiff eu harian 'nhw' ei ddefnyddio a gwneud cymariaethau â'r hyn sy'n digwydd yn y gwledydd eraill.

Bydd gwleidyddion yng Nghymru (a'r Alban) yn aml yn ymateb i gyhoeddiadau am wariant ar gyfer Cymru a Lloegr drwy alw am i'r arian hwn gael ei Barnett-eiddio neu am gyllid canlyniadol o dan fformiwla Barnett – yn fyr, y dylai fod difidend ar gyfer pedair gwlad y DU. Nid yw Trysorlys EM bob amser o'r un farn.