2.2 Adolygiadau comisiynau
Bu llawer o adolygiadau o'r pwerau a roddwyd i sefydliadau Cymru. Dyma drosolwg o'r rhai pwysicaf:
Comisiwn Kilbrandon (1969) – yr ystyriaeth ffurfiol gyntaf o'r ffordd y gellid gwasgaru pŵer ledled y DU. Enw arall arno yw'r Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad. Yn y pen draw, arweiniodd at y refferendwm yn 1979.
Comisiwn Richard (2002) – Enw arall arno yw'r Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei sefydlu gan Rhodri Morgan i fynd i'r afael â'r beirniadaethau cynnar ynglŷn â datganoli yng Nghymru, yn enwedig y ffaith bod craffu cyfyngedig a gallu i weithredu. Arweiniodd hyn at Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006) a gwahanu'r weithrediaeth a'r ddeddfwrfa.
Comisiwn Holtham (2008) – Gwnaeth y grŵp hwn o economegwyr asesu fformiwla Barnett a phwerau codi trethi'r Cynulliad. Enw arall arno yw'r Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru.
Confensiwn Cymru Gyfan (2008) – Cafodd ei sefydlu i esbonio'r setliad datganoli yn well a pharatoi'r ffordd ar gyfer refferendwm ar bwerau deddfu a gynhaliwyd yn 2011.
Comisiwn Silk (2011) – Roedd hwn yn adolygiad eang o gymwyseddau polisi a phwerau ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Enw arall arno yw'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Arweiniodd at ddwy Ddeddf i Gymru yn 2014 a 2016.
Comisiwn Thomas (2017) – Cafodd ei sefydlu gan Carwyn Jones i ymdrin â'r ‘busnes heb ei orffen sy'n deillio o Gomisiwn Silk’ sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder. Enw arall arno yw'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.