Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Y Cyfryngau

Buan iawn y bydd unrhyw drafodaeth am wleidyddiaeth ac, yn benodol, atebolrwydd yng Nghymru yn ysgogi sylw am y cyfryngau yng Nghymru. Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, prin yw'r cyfryngau annibynnol yng Nghymru. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig, melin drafod flaenllaw yng Nghymru, yn craffu'n agos ar y mater hwn yn barhaus drwy ei archwiliadau o'r cyfryngau – ymchwiliadau manwl rheolaidd i gyflwr y sector yng Nghymru. Mewn tystiolaeth a gyflwynwyd i ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad i newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru yn 2017, nododd:

Our most recent Media Audit (November 2015) found that whilst the availability of media communications had significantly improved since the 2008 audit, the position regarding content for audiences across Wales was considerably worse. While there have been substantial increases in Welsh audiences’ ability to access news through a range of digital platforms, this has not compensated for a reduction in the forensic capacity of Welsh Journalism as resources and revenue options continue to shrink. The primary issues relating to news journalism in Wales are sustainability and plurality. It is becoming more difficult for Wales to retain its visibility to itself and portray the reality of relevant issues beyond its borders to the rest of the UK, and further afield.

(Senedd Cymru, 2017)

Mae hyn yn golygu nad oes llawer o graffu newyddiadurol ar weithredoedd gwleidyddion Cymru a dealltwriaeth wael ymhlith pleidleiswyr Cymru ynghylch sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud.

ThGwaethygir y sefyllfa gan gyffredinrwydd cyfryngau yn Llundain a'i fethiant i wahaniaethu rhwng penderfyniadau a wneir gan wahanol lywodraethau. Canfu Pôl BBC Cymru a oedd yn nodi 15 mlynedd o ddatganoli fod 43% a 31% o ymatebwyr yn credu mai cyfrifoldeb llywodraeth y DU oedd iechyd ac addysg yn y drefn honno, tra bod 42% o bobl yn credu ar gam fod plismona yn fater Cynulliad (BBC News, 2014).