Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Diffyg cyfansoddiad ysgrifenedig

Dogfen yw cyfansoddiad ysgrifenedig sy'n nodi'r rheolau sylfaenol o ran y modd y mae sefydliadau gwladwriaethol mawr yn cysylltu â'i gilydd a'r modd y mae'r wladwriaeth yn cysylltu â'r dinesydd.  Gallech dybio'n rhesymol y byddai cyfansoddiad ysgrifenedig o'r fath yn nodi'r modd y byddai llywodraeth San Steffan a'r llywodraethau datganoledig yn cyfathrebu ac yn dod i benderfyniadau.

Ynghyd â Seland Newydd ac Israel, mae'r DU ymhlith democratiaethau prin y byd nad oes ganddynt gyfansoddiad ysgrifenedig.  Mae'r rheswm dros hyn yn hanesyddol.  Ni fu unrhyw chwyldro na newid cyfundrefnol yn y DU ers 1688 ac, felly, nid yw'r angen i ddrafftio cyfansoddiad fyth wedi dod i'r amlwg. Yn hytrach, caiff cydberthnasau eu nodi mewn casgliad o statudau, confensiynau, penderfyniadau barnwrol a chytuniadau.

Mae'r rhai sy'n dadlau o blaid un cyfansoddiad wedi'i godio yn honni nad yw'r system hon yn gweithio mwyach am nad yw'n ddigon eglur, nad yw'n diogelu hawliau sylfaenol, ac am ei bod yn creu dryswch, yn enwedig mewn perthynas â datganoli. Mae'r rhai sy'n dadlau o blaid y system bresennol yn honni nad yw'n ddichonadwy rhoi cynnig ar ymarfer o'r fath a cheisio llywodraethu gwlad ar yr un pryd. Maent hefyd yn bwrw amheuaeth ar effeithiolrwydd y rhan fwyaf o gyfansoddiadau ysgrifenedig.

Darllen pellach - The Briefing Room

Am ddadansoddiad manwl o'r dadleuon o blaid ac yn erbyn cyfansoddiad ysgrifenedig, gallwch ddod o hyd i ddolen i bennod o The Briefing Room BBC Radio 4 yn yr adran Darllen Pellach.