Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Agweddau tuag at ddatganoli

Pleidleisiwyd dros ddatganoli yn 1997 o drwch blewyn, gyda 49.7% o bleidleiswyr yn gwrthod y syniad. Fodd bynnag, yn fuan ar ôl y bleidlais, roedd gwrthwynebiad i ddatganoli wedi gostwng i tua 20% o bleidleiswyr Cymru ac mae wedi parhau'n sefydlog wedi hynny.

Yn y cyfweliad ar ddechrau'r adran hon, mae'r Athro Awan-Scully yn awgrymu bod gwleidyddion Cymru yn aml yn cael eu hystyried fel pobl sydd â mwy o ddiddordeb yn y problemau sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru, ac y byddai llawer o bobl yn hoffi gweld pwerau pellach yn cael eu datganoli i Gymru, er bod diffyg eglurder o ran yr hyn y dylai'r pwerau hyn fod.

Ar ddechrau'r 2020au, bu ychydig o symudiad yn yr agweddau tuag at ddatganoli. Dechreuodd cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru gynyddu ychydig, yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd ar lefel y DU. Ar yr un pryd, roedd pleidiau gwleidyddol â safbwyntiau gwrth-ddatganoli yn ennill cefnogaeth ymhlith pleidleiswyr Cymru.

  • Pa effaith fyddai pleidiau sydd o blaid annibyniaeth a phleidiau gwrth-ddatganoli yn sicrhau seddau yn y Senedd yn ei chael, yn eich barn chi?

  • Mae effaith unrhyw blaid wleidyddol yn dibynnu'n eithaf tipyn ar ei disgyblaeth a digwyddiadau'r dydd, ond gallai plaid sydd o blaid annibyniaeth â digon o bleidleisiau yn y Senedd sbarduno refferendwm annibyniaeth, fel y gwelsom yn yr Alban yn 2012. Gallai plaid sy'n gwrthwynebu datganoli atal unrhyw fesurau i wella neu ehangu pwerau'r Senedd, er enghraifft drwy beidio â phleidleisio o blaid mwy o ASau.