Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Crynodeb Adran 3

Rydych wedi cyrraedd diwedd y drydedd adran, sef adran olaf y cwrs hwn. Cyn symud ymlaen i'r casgliad, cymerwch eiliad i ystyried yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu am bleidleiswyr Cymru, materion hunaniaeth a sut mae'r rhain yn chwarae rhan yn y ddadl ehangach am ddatganoli yng Nghymru:

  • Mae pleidleiswyr yn aml yn mynegi barn wrthgyferbyniol am y broses wleidyddol yng Nghymru, er enghraifft, gan gredu nad yw'n cael fawr o effaith ystyrlon ar eu bywydau ac ar yr un pryd yn credu y dylid datganoli pwerau pellach.
  • Efallai bod rhywfaint o ddifaterwch tuag at broses wleidyddol Cymru yn cael ei ddangos gan y nifer isel o bleidleiswyr.
  • Nid yw dadleuon ynghylch gwleidyddiaeth Cymru yn gyffredin, gyda deialog barhaus ymhlith pleidleiswyr Cymru ynghylch yr angen i ddiddymu'r sefydliadau datganoledig neu wella eu pŵer ymhellach hyd at bwynt annibyniaeth Cymru.