Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Defnyddio mesuriadau metrig: pwysau

Mae pwysau – weithiau cyfeirir ato fel ‘más’ – yn fesuriad o ba mor drwm yw rhywbeth.

Faint ydych chi’n ei bwyso?

Efallai eich bod wedi rhoi’ch pwysau mewn cilogramau (kg) neu mewn pwysau (lb), neu bwysau a stonau (st). Mae cilogramau’n bwysau metrig. Mae stonau a phwysau yn bwysau imperial.

Yn y Deyrnas Unedig, gellir defnyddio unedau metrig a rhai imperial. Byddwn yn canolbwyntio ar yr unedau pwysau metrig yma.

Unedau pwysau metrig
Uned fetrigByrfodd
miligrammg
gramg
cilogramkg
tunnell(Dim byrfodd)

Defnyddir miligramau (mg) dim ond ar gyfer meintiau neu eitemau bach iawn, fel dos o feddyginiaeth.

Mae tunnell yn uned ar gyfer pwyso eitemau trwm iawn, fel lori.

Ar gyfer tasgau mesur pob dydd, yr unedau pwysau metrig mwyaf cyffredin yw gramau (g) a chilogramau (kg), felly byddwch yn canolbwyntio ar y rhain yma.

  • 1 g yw pwysau clip papur, yn fras

  • 1 kg yw pwysau bag o siwgr

Ffaith allweddol: 1  000 gram (g) = 1 cilogram (kg)

Awgrym: Os ydych chi wedi arfer â defnyddio’r system mesur imperial, mae 1 cilogram yn gywerth â rhyw 2 bwys.

Caiff llawer o fwydydd eu gwerthu yn ôl eu pwysau. Er enghraifft:

  • 10 g o sbeis

  • 30 g o greision

  • 100 g o siocled

  • 250 g o goffi

  • 500 g o reis.

Caiff pethau trymach eu pwyso mewn cilogramau:

  • Sach 2 kg o datws

  • 10 kg o fwyd ieir

  • 15 kg lwfans bagiau ar awyren

  • Bag 25 kg o sment

Noder – pe baech chi wedi prynu deg pecyn o reis, byddech yn dweud eich bod wedi prynu 5 kg yn hytrach na 5 000 g.