Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Offer mesur

Mae clorian yn dangos ichi faint mae rhywbeth yn ei bwyso. Mae clorian ddigidol yn dangos y pwysau fel rhifau. Mae gan gloriannau eraill ddeial neu res o rifau ac mae’n rhaid ichi ddarllen y pwysau o’r rhain.

Described image
Ffigur 20 Defnyddio cloriannau gwahanol ar gyfer gwrthrychau gwahanol

Byddwch yn sylwi bod y nodwydd ar y glorian yn y llun ar y dde yn pwyntio at 150 g. Os ydych chi’n defnyddio clorian fel hon, bydd angen ichi wybod y rhaniadau sydd wedi’u marcio arni. Efallai y bydd yn rhaid ichi gyfrif y marciau rhwng y rhifau.

Enghraifft: Canfod pwysau ar glorian

Beth yw pwysau’r blawd yn y glorian hon?

Described image
Ffigur 21 Pwyso blawd

(Noder bod clorian fel hon wedi’i graddnodi i bwyso’r blawd yn y bowlen yn unig – dim ond y blawd yw’r pwysau ar y glorian, nid y blawd a’r bowlen).

Dull

Mae pedwar marc rhwng 50 g a 100 g, pob un yn cynrychioli 10 g arall. Felly mae’r marciau’n cynrychioli 60 g, 70 g, 80 g a 90 g. Mae’r nodwydd ar yr un lefel â’r ail farc, felly 70 g yw’r pwysau.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 11: Darllen clorian

  1. Faint o gramau o siwgr sydd ar y glorian yn y llun isod?

    Described image
    Ffigur 22 Pwyso siwgr
  2. Beth yw pwysau’r person hwn mewn cilogramau?

    Described image
    Ffigur 23 Pwyso person
  3. Beth yw pwysau’r llythyr?

    Described image
    Ffigur 24 Pwyso llythyr

Ateb

  1. Mae naw marc rhwng 100 g a 200 g, felly mae pob marc yn cynrychioli 10 g. Mae’r nodwydd yn pwyntio at y pedwerydd marc ar ôl 100g, felly mae:

    • 100 + 40 = 140 g o siwgr

  2. Mae’r nodwydd hanner ffordd rhwng 60 kg a 70 kg, felly mae’r person yn pwyso 65 kg.

  3. Mae naw marc rhwng 0 g a 100 g, felly mae marc ar bob 10 g. Mae’r nodwydd yn pwyntio at yr ail farc cyn 100g, felly mae’r llythyr yn pwyso:

    • 100 – 20 = 80 g