Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Pwyso pethau

Mae’n ddefnyddiol bod â syniad ynghylch faint mae pethau’n pwyso. Gall eich helpu i weithio allan pwysau ffrwythau neu lysiau i’w prynu yn y farchnad, er enghraifft, neu a fydd eich cês dillad o fewn y terfyn pwysau ar gyfer taith ar awyren.

Ceisiwch amcangyfrif pwysau rhywbeth cyn ichi ei bwyso. Bydd yn eich helpu i arfer â mesuriadau pwysau.

Awgrym: Cofiwch ddefnyddio’r unedau priodol. Rhowch bwysau pethau bach mewn gramau a phethau trwm mewn cilogramau.

Cofiwch:

  • 1 g yw pwysau clip papur, yn fras.

  • 1 kg yw pwysau bag o siwgr.

  • 1kg = 1 000g

Edrychwch ar yr enghraifft isod cyn rhoi cynnig ar y gweithgaredd.

Enghraifft: Pwyso afal

  1. Pa uned fetrig fyddech chi’n ei defnyddio i bwyso afal?

  2. Amcangyfrifwch beth yw pwysau afal, ac yna pwyswch un.

  3. Faint fyddai 20 o’r afalau hyn yn ei bwyso? Fyddech chi’n defnyddio’r un unedau?

Dull

  1. Mae afal yn eithaf bach, felly dylid ei bwyso mewn gramau.

  2. Faint wnaethoch chi amcangyfrif yw pwysau afal? Byddai 100g yn amcangyfrif rhesymol.

    Roedd yr afal a bwyson ni yn 130 g.

  3. Byddai 20 afal yn pwyso:

    • 130 × 20 = 2 600 g

Gellid mynegi’r ateb hwn mewn cilogramau hefyd. I drosi o gramau i gilogramau, mae angen ichi rannu’r ffigur mewn gramau â 1 000 (1 kg = 1 000 g). Felly pwysau’r afalau mewn cilogramau yw:

  • 2  600 g ÷ 1  000 = 2.6 kg

Byddwn yn edrych eto ar drosi unedau pwysau metrig yn yr adran nesaf.

Gweithgaredd 12: Pwyso pethau

  1. Faint mae deg bag te yn ei bwyso? Amcangyfrifwch ac yna pwyswch nhw.

  2. Pa mor drwm yw potel o saws? Faint fyddai bocs o 10 potel yn ei bwyso?

    Awgrym: Y pwysau a ddangosir ar y label yw pwysau’r saws – nid yw’n cynnwys pwysau’r jar neu botel. Felly er mwyn cael mesuriad cywir, mae angen ichi bwyso’r botel yn hytrach na ddarllen y label!

  3. Pa mor drwm yw llyfr?

Gadael sylw

Dangosir ein hawgrymiadau ni yn y tabl isod. Efallai y bydd eich amcangyfrifon a’ch pwysau chi wedi’u mesur yn wahanol, ond dylent fod rhywbeth yn debyg.

EitemAmcan-gyfrif o’r pwysauPwysau – Gwirioneddol
Deg bag te25 g30 g
Potel o saws500 g450 g
Llyfr900 g720 g

Byddai bocs o ddeg potel o saws yn pwyso:

  • 450 × 10 = 4 500 g

Fel y nodwyd eisoes, 1 000 g = 1 kg, felly 4 500 g = 4.5 kg, sef y ffordd y byddech fel arfer yn mynegi’r pwysau hyn.

Pe bai’ch llyfr yn pwyso mwy na’n llyfr ni, efallai y byddech wedi rhoi ei bwysau mewn cilogramau. Os oeddech wedi dewis llyfr bach, efallai ei fod yn pwyso llawer llai.