Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4 Cyfrifo gan ddefnyddio unedau pwysau metrig

Efallai y bydd angen ichi wneud cyfrifiadau eraill gyda phwysau. Efallai bydd yn rhaid ichi drosi rhwng unedau metrig, naill ai cyn gwneud y cyfrifiad neu ar y diwedd.

Enghraifft: Pwysau cynhwysion

Pe baech chi’n prynu 750 g o flawd, 500 g o siwgr a 250 g o fenyn, beth yw cyfanswm pwysau’r cynhwysion hyn mewn cilogramau?

Dull

Gan fod yr holl fesuriadau wedi’u nodi mewn gramau, gallwch eu hadio at ei gilydd:

750 g + 500 g + 250 g = 1 500 g

Mae’r cwestiwn yn gofyn ichi nodi’r pwysau terfynol mewn cilogramau. Gan wybod bod 1 cilogram yn gyfwerth â 1 000 o gramau, yn awr mae angen ichi drosi’r swm yn gramau:

1 500 ÷ 1 000 = 1.5 kg

Enghraifft: Darn o gaws

Mae gan ddeli ddarn o gaws sy’n pwyso 1.4 kg. Caiff tri darn sy’n pwyso 250 g yr un, eu torri oddi arno. Beth yw pwysau’r darn o gaws sydd ar ôl?

Dull

Mae’r prif ddarn o gaws yn pwyso 1.4 kg, felly mae angen ichi drosi hwn yn gramau:

1.4 kg × 1 000 = 1 400 g

Mae’r tri darn o gaws yn pwyso:

250 g × 3 = 750 g

Mae tynnu’r swm hwn o bwysau gwreiddiol y darn o gaws yn rhoi’r ateb:

1 400 g – 750 g = 650 g

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 14: Gwneud cyfrifiadau gyda phwysau

Cyfrifwch yr atebion i’r problemau canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Efallai y byddwch eisiau edrych yn ôl ar Sesiwn 1 i’ch atgoffa sut i wneud cyfrifiadau gyda rhifau cyfan a degolion. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Gallwch ail-wirio’ch atebion gyda chyfrifiannell os oes angen. Cofiwch wirio’ch atebion.

  1. Mae Lili’n gwneud 3 kg o jam. Mae’r jam wedi’i wneud o ffrwythau a siwgr. Pwysau’r ffrwythau yw 1 kg 800 g. Faint o siwgr mae angen iddi ei ychwanegu i wneud 3 kg o jam?

  2. Mae tri pharsel yn pwyso 1.25 kg, 3.5 kg a 600g. Beth yw cyfanswm pwysau’r parseli mewn cilogramau?

  3. 7 kg yw’r lwfans bagiau llaw ar gyfer cwmni awyrennau penodol. Os ydych chi’n prynu bag sy’n pwyso 3.1 kg, beth yw’r pwysau mwyaf y gallwch chi ei bacio yn y bag?

  4. Mae ci bach yn pwyso 2.3 kg yn saith wythnos oed. Mae’n ennill 800 g yr wythnos. Faint fydd y ci bach yn ei bwyso yn fras pan fydd yn ddeg wythnos oed?

Ateb

  1. Mae angen ichi benderfynu a ddylech drosi popeth yn gramau neu’n gilogramau yn gyntaf. Gan ddefnyddio Dull 1, sef trosi popeth yn gramau, cyfanswm pwysau’r jam mewn gramau fydd:

    • 3 kg × 1 000 = 3 000 g

    Pwysau’r ffrwythau yw:

    • 1 kg × 1 000 = 1 000 g + 800 g = 1 800 g

    Nawr gallwch dynnu pwysau’r ffrwythau o gyfanswm y pwysau mae eu hangen:

    • 3 000 g – 1 800 g = 1 200 g

    Os oes angen, gallwch drosi i gilogramau:

    • 1 200 g ÷ 1 000 = 1.2 kg

    Gan ddefnyddio Dull 2, mynegi pwysau’r ffrwythau mewn cilogramau, pwysau’r ffrwythau yw 1 kg 800 g, sef 1.8 kg. Os tynnwch bwysau’r ffrwythau o gyfanswm pwysau’r jam mae ei angen, yr ateb yw:

    • 3 kg – 1.8 kg = 1.2 kg

  2. Mae angen ichi benderfynu a ddylech drosi popeth yn gramau neu’n gilogramau yn gyntaf. Gan ddefnyddio Dull 1, sef trosi popeth yn gramau yn gyntaf:

    • Parsel 1: 1.25 kg × 1 000 = 1 250 g

      Parsel 2: 3.5 kg × 1 000 = 3 500 g

      Parcel 3: 600g

  3. Adiwch bwysau’r parseli mewn gramau:

    • 1 250 g + 3 500 g + 600 g = 5 350 g

    Mae’r cwestiwn yn gofyn am yr ateb mewn cilogramau, felly bydd angen ichi drosi:

    • 5 350 g ÷ 1 000 = 5.35 kg

    Gan ddefnyddio Dull 2, trosi popeth yn gilogramau yn gyntaf:

    • Parsel 1: 1.25 kg

      Parsel 2: 3.5 kg

      Parsel 3: 600 g ÷ 1 000 = 0.6 kg

    Adiwch bwysau’r parseli mewn cilogramau:

    • 1.25 kg + 3.5 kg + 0.6 kg = 5.35 kg

  4. Os yw pwysau mwyaf bagiau llaw yn 7 kg ac mae’r cês yn pwyso 3.1 kg, gallwch bacio’r pwysau canlynol heb fynd dros y terfyn uchaf:

    • 7 kg – 3.1 kg = 3.9 kg

    Efallai y byddwch wedi gweithio hyn allan mewn gramau:

    • Pwysau mwyaf: 7 kg × 1 000 g = 7 000 g

      Pwysau’r cês: 3.1 kg × 1 000 = 3 100 g

      Cyfanswm pwysau’r bagiau: 7 000 g – 3 100 g = 3 900 g

  5. I weithio allan yr ateb, troswch bwysau’r ci bach yn saith wythnos oed yn gramau yn gyntaf:

    • 2.3 kg × 1 000 = 2 300 g

    Mae’r ci bach yn ennill 800 g yr wythnos:

    • Wythnos 8: 2 300 g + 800 g = 3 100 g

      Wythnos 9: 3 100 g + 800 g = 3 900 g

      Wythnos 10: 3 900 g + 800 g = 4 700 g

    Efallai y byddwch eisiau mynegi’ch ateb mewn cilogramau:

    • 4 700 g ÷ 1 000 = 4.7 kg

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i:

  • amcangyfrif a mesur pwysau

  • defnyddio unedau pwysau metrig

  • gwybod beth yw’r berthynas rhwng gramau a chilogramau

  • trosi rhwng gramau a chilogramau

  • cyfrifo gan ddefnyddio pwysau metrig.