Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Trosi unedau cynhwysedd metrig

Weithiau bydd angen ichi newid rhwng mililitrau a litrau. Mae 1 000 o fililitrau mewn litr.

Cyfeiriwch at y siart trosi metrig hwn pan fyddwch yn gwneud y gweithgaredd isod.

Described image
Ffigur 33 Siart trosi ar gyfer cyfaint

Fel y soniwyd eisoes, gellir mesur cynhwysedd/cyfaint mewn centilitrau (cl), ond mae’n fwy cyffredin defnyddio mililitrau (ml) a litrau (l), felly byddwn yn canolbwyntio ar drosi rhwng y rhain yma.

Enghraifft: Trosi unedau cynhwysedd

  1. Troswch y canlynol o litrau i fililitrau:

    • a.7 litr = ? ml

    • b.8.5 litr = ? ml

  2. Troswch y canlynol o fililitrau i litrau:

    • a.6 000 ml = ? litr

    • b.2 750 ml = ? litr

Dull

  1. Fel y gwelwch o Ffigur 33, i drosi o litrau (l) i fililitrau (ml), mae angen ichi luosi â 1 000:

    • a.7 l × 1 000 = 7 000 ml

    • b.8.5 l × 1 000 = 8 500 ml

  2. Os ydych eisiau trosi o fililitrau (ml) i litrau (l) yna mae angen ichi rannu â 1 000:

    • a.6 000 ml ÷ 1 000 = 6 l

    • b.2 750 ml ÷ 1 000 = 2.75 l

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 16: Trosi unedau cynhwysedd metrig

Cyfrifwch y canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Efallai y byddwch eisiau edrych yn ôl ar Sesiwn 1 i’ch atgoffa sut i luosi [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a rhannu â 1 000. Cofiwch wirio’ch atebion.

  1. Beth yw’r mesuriadau canlynol mewn litrau?

    • a.4 000 ml

    • b.3 500 ml

    • c.650 ml

    • d.8 575 ml

  2. Beth yw’r mesuriadau canlynol mewn mililitrau?

    • a.9 litr

    • b.2.5 litr

    • c.4.8 litr

    • d.8.95 litr

Ateb

  1. Mae’r atebion fel a ganlyn:

    • a.4 000 ml ÷ 1 000 = 4 litr

    • b.3 500 ml ÷ 1 000 = 3.5 litr

    • c.650 ml ÷ 1 000 = 0.65 litr

    • d.8 575 ml ÷ 1 000 = 8.575 litr

  2. Mae’r atebion fel a ganlyn:

    • a.9 litr × 1 000 = 9 000 ml

    • b.2.5 litr × 1 000 = 2 500 ml

    • c.4.8 litr × 1 000 = 4 800 ml

    • d.8.95 litr × 1 000 = 8 950 ml