Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3 Cyfrifo gan ddefnyddio unedau cynhwysedd metrig

Efallai y bydd angen ichi wneud cyfrifiadau sy’n ymwneud â chynhwysedd. Efallai y bydd yn rhaid ichi drosi rhwng unedau metrig, naill ai cyn gwneud y cyfrifiad neu ar y diwedd.

Enghraifft: Bwyd parti

Rydych yn coginio ar gyfer parti mawr. Mae’r rysáit rydych yn ei defnyddio yn galw am 600 ml o laeth i wneud digon i bedwar person.

Faint o litrau o laeth fydd arnoch eu hangen i wneud deg gwaith cymaint?

Dull

Yn gyntaf, mae angen ichi luosi’r swm mewn mililitrau â 10:

  • 600 × 10 = 6 000 ml

Fodd bynnag, mae’r cwestiwn yn gofyn am swm mewn litrau, nid mililitrau. I drosi o fililitrau i litrau, mae angen ichi rannu’r ffigur mewn mililitrau â 1 000. Felly maint y llaeth mae arnoch ei angen mewn litrau yw:

  • 6 000 ÷ 1 000 = 6 litr

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol gan ddefnyddio’r diagram trosi ar y dudalen flaenorol i’ch helpu chi i ateb y cwestiynau. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 17: Gwneud cyfrifiadau sy’n ymwneud â chynhwysedd

Cyfrifwch yr atebion i’r problemau canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Gallwch ail-wirio’ch atebion gyda chyfrifiannell os oes angen. Cofiwch wirio’ch atebion.

  1. Mae’n rhaid i nyrs archebu digon o gawl i 100 o gleifion mewn ward. Bydd pob claf yn bwyta 400 ml o gawl. Faint o litrau o gawl mae’n rhaid i’r nyrs eu harchebu?

  2. Mae’n rhaid i ddau ddeg o bobl sy’n gweithio mewn gweithdy crefftau rannu’r botel dau litr olaf o lud. Faint o fililitrau o lud all pob person eu defnyddio? Beth fyddai hyn mewn centilitrau?

  3. Mae Willow yn prynu carton 2 litr o laeth. Mae’n mesur 350 ml ar gyfer saws, 25 ml ar gyfer cacen a 100 ml ar gyfer diod amser gwely i’w phlentyn. Faint o laeth sydd ar ôl yn y carton? Mynegwch eich ateb mewn mililitrau.

  4. Mae Ben yn cael parti ac mae eisiau gwneud coctel di-alcohol. Mae wedi dod o hyd i rysáit sy’n dweud bod arno angen 500 ml o sudd llugaeron, 500 ml o sudd grawnwin, 250 ml o sudd oren ac 1 litr o ddŵr pefriog i weini wyth o bobl. Bydd 24 o bobl yn dod i’r parti.

    Faint o bob cynhwysyn fydd ei angen ar Ben? Mynegwch eich atebion mewn litrau.

    A fydd peiriant dosbarthu diodydd wyth litr yn ddigon mawr i ddal ei goctel di-alcohol?

Ateb

  1. Yn gyntaf mae angen ichi weithio allan faint o gawl y bydd arnoch ei angen mewn mililitrau:

    • 100 × 400 = 40 000 ml

    I drosi o fililitrau i litrau, mae angen ichi rannu’r ffigur mewn mililitrau â 1 000. Felly maint y llaeth y mae arnoch ei angen mewn litrau yw:

    • 40 000 ÷ 1 000 = 40 litr

  2. Yn gyntaf mae angen ichi weithio allan faint o fililitrau sydd mewn 2 litr o lud:

    • 2 × 1 000 = 2 000 ml

    Yna caiff y swm hwn ei rannu rhwng y dau ddeg o bobl sy’n gweithio yn y siop:

    • 2 000 ÷ 20 = 100 ml yr un

    I drosi hyn yn gentilitrau, byddech yn rhannu’r ateb hwn â 10:

    • 100 ÷ 10 = 10 cl yr un

  3. Yn gyntaf adiwch faint o laeth mae Willow wedi’i ddefnyddio:

    • 350 ml + 25 ml + 100 ml = 475 ml

    Mae’r carton yn dal dau litr, sef mewn mililitrau:

    • 2 litres × 1 000 = 2 000 ml

    Nawr tynnwch y maint a ddefnyddiwyd o’r maint mae’r carton yn ei ddal:

    • 2 000 ml – 475 ml = 1 525 ml

    Felly mae 1 525 ml ar ôl yn y carton.

  4. Mae’r meintiau a roddir yn ddigon i wneud y ddiod ar gyfer wyth o bobl. Os gwahoddir 24 o bobl i’r parti, bydd ar Ben angen tair gwaith cymaint o’r cynhwysion ag a nodir yn y rysáit (8 × 3 = 24). Felly bydd arno angen:

    • 500 ml × 3 = 1 500 ml o sudd llugaeron (1 500 ÷ 1 000 = 1.5 litr)

      500 ml × 3 = 1 500 ml o sudd grawnwin (1 500 ÷ 1 000 = 1.5 litr)

      250 ml × 3 = 750 ml o sudd oren (750 ÷ 1 000 = 0.75 litr)

      1 litr × 3 = 3 litr o ddŵr pefriog (mae hyn eisoes mewn litrau, felly does dim angen trosi)

  5. I weld a fydd y bowlen yn ddigon mawr, mae angen inni adio’r meintiau sydd wedi’u mynegi mewn litrau at ei gilydd:

    • 1.5 litr + 1.5 litr + 0.75 litr + 3 litres = 6.75 litr

    Felly bydd y peiriant dosbarthu diodydd wyth litr yn ddigon mawr.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i:

  • ganfod yr unedau safonol i fesur cyfaint neu gynhwysedd

  • mesur cyfeintiau

  • trosi rhwng unedau cynhwysedd metrig

  • gwneud cyfrifiadau gydag unedau cynhwysedd metrig.