Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.1 Cyfrifo gwahaniaeth amser

Efallai y bydd angen ichi weithio allan gwahaniaethau mewn amser e.e. er mwyn gweithio allan hyd rhaglen deledu neu amser teithio.

Mae yna ffyrdd gwahanol o weithio allan y gwahaniaeth mewn amser. Un o’r ffyrdd hawsaf yw defnyddio’r dull adio.

Enghraifft: Gwahaniaeth amser trwy adio

Faint o amser sydd rhwng 08:45 a 10:30?

Dull

Yr amser dechrau yw 08:45.

Nifer y munudau rhwng 08:45 a dechrau’r awr nesaf, 09:00, yw 15 munud.

Nifer yr oriau rhwng 09:00 a 10:00 yw un awr.

Nifer y munudau rhwng 10:00 a 10:30 yw 30 munud.

Felly’r amser rhwng 08:45 a 10:30 yw:

15 munud + 30 munud + 1 awr = 1 awr 45 munud

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 21: Gwahaniaeth amser

Faint o amser sydd rhwng yr amserau canlynol?

  1. 03:55 a 06:35

  2. 09:45 a 12:15

  3. 08:26 a 10:14

  4. 7:55 a.m. a 1:10 p.m

  5. Midday a 15:50

  6. 3:15 am a hanner nos

Ateb

  1. Yr amser dechrau yw 03:55.

    Nifer y munudau rhwng 03:55 a dechrau’r awr nesaf, 04:00, yw 5 munud.

    Nifer yr oriau rhwng 04:00 a 06:00 yw dwy awr.

    Nifer y munudau rhwng 06:00 a 06:35 yw 35 munud.

    Felly’r amser rhwng 03:55 a 06:35 yw:

    • 5 munud + 35 munud + 2 awr = 2 awr 40 munud

  2. Yr amser dechrau yw 09:45:

    Nifer y munudau rhwng 09:45 a dechrau’r awr nesaf, 10:00, yw 15 munud.

    Nifer yr oriau rhwng 10:00 a 12:00 yw dwy awr.

    Nifer y munudau rhwng 12:00 a 12:15 yw 15 munud.

    Felly’r amser rhwng 09:45 a 12:15 yw:

    • 15 munud + 15 munud + 2 awr = 2 awr 30 munud

Gan ddilyn yr un dull, dylai fod gennych yr atebion canlynol i’r cwestiynau eraill:

  1. 1 hour 48 minutes

  2. 5 awr 15 munud

  3. 3 awr 50 munud

  4. 20 awr 45 munud