Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Crynodeb o Sesiwn 2

Rydych yn awr wedi cwblhau Sesiwn 2, ‘Unedau mesur’. Os ydych wedi nodi unrhyw feysydd mae angen ichi weithio arnynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr adran hon o’r cwrs ac yn rhoi cynnig arall ar y gweithgareddau.

Erbyn hyn dylech chi fod yn gallu:

  • datrys problemau sy’n galw am gyfrifo gyda mesuriadau cyffredin, gan gynnwys amser, hyd, pwysau, cynhwysedd a thymheredd

  • trosi unedau mesur yn yr un system.

Bydd yr holl sgiliau a restrwyd uchod yn eich helpu gyda thasgau bywyd pob dydd, fel mesur ar gyfer dodrefn newydd neu ail-ddylunio ystafell neu ardd. Mae’r rhain yn sgiliau hanfodol a fydd yn eich helpu i gamu ymlaen yn eich gwaith a’ch addysg.

Erbyn hyn rydych yn barod i symud ymlaen at Sesiwn 3.