Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 2: Unedau mesur

Cyflwyniad

Rydych yn dod ar draws problemau sy’n galw am gyfrifo bob dydd. Gallai’r problemau hyn fod yn ymwneud ag arian, amser, hyd, pwysau, cynhwysedd a thymheredd. Er enghraifft, pe baech chi’n prynu peiriant golchi dillad newydd, byddech yn mesur y gofod lle rydych eisiau ei roi o dan yr wyneb gweithio a gwneud yn siŵr eich bod yn dewis peiriant sy’n ddigon bach i fynd yn y gofod.

Yn y sesiwn hwn o’r cwrs, byddwch yn dysgu am fesur a chyfrifo hyd, pellter, pwysau, cynhwysedd (cyfaint), tymheredd ac amser. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio mesuriadau metrig gwahanol, fel cilometrau, metrau a chentimetrau, gramau a chilogramau, a litrau.

Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:

  • mesur a deall meintiau gwrthrychau

  • darllen siart milltiredd i ganfod y pellter rhwng lleoedd

  • canfod pa mor drwm yw pethau a deall pwysau

  • mesur a deall cyfeintiau a chynwyseddau

  • mesur a chymharu tymereddau

  • mynegi amser gan ddefnyddio’r cloc 24 awr

  • gwneud cyfrifiadau gydag amser.

Download this video clip.Video player: a49_units_welsh_boards.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).