Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Cymesuredd

Gellir plygu siâp 2D cymesur yn ei hanner fel bod y ddwy ochr yr un peth. Llinell (neu linellau) cymesuredd yw’r enw ar y plygiad.

Mae gan y siapiau yn Ffigur 10 un llinell cymesuredd.

Described image
Ffigur 10 Un llinell cymesuredd

Dim ond un llinell cymesuredd fydd gan rai siapiau, fel yr un canol uchod, oherwydd y manylion arno, fel y llygaid, y trwyn a'r geg. Fodd bynnag, mae gan gylch heb unrhyw fanylion ychwanegol nifer anfeidraidd o linellau cymesuredd!

Mae gan y siapiau yn Ffigur 11 linellau cymesuredd lluosog.

Described image
Ffigur 11 Llinellau cymesuredd lluosog

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 5: Llinellau cymesuredd

Yn Ffigur 12, faint o linellau cymesuredd sydd gan bob un o’r llythrennau hyn?

Described image
Ffigur 12 Faint o linellau cymesuredd?

Ateb

Described image
Ffigur 13 Llinellau cymesuredd

Mae gan ‘M’, ‘A’ a ‘T’ un llinell cymesuredd.

Mae gan ‘H’ ddwy linell cymesuredd.

Nid oes gan ‘S’ linell cymesuredd.

Gweithgaredd 6: Faint o linellau cymesuredd?

Enw arall ar linell cymesuredd yw llinell drych, oherwydd pe baech chi’n gosod drych ar hyd y llinell, byddai’r siâp yn edrych yr un peth.

Rhowch gynnig ar ysgrifennu’ch enw mewn prif lythrennau a gweld faint o linellau cymesuredd sydd gan bob llythyren. Gallech ddefnyddio drych i wirio’ch atebion.