Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 O gwmpas yr ymyl

Pryd fyddai angen ichi weithio allan pa mor bell yw hi o gwmpas siâp gwastad?

Bydd angen ichi wybod pa mor bell yw hi o gwmpas ymyl y siâp pan rydych eisiau gosod border o gwmpas rhywbeth, fel border papur wal o gwmpas ystafell, neu wal frics o gwmpas patio. Efallai y byddwch wedi meddwl am enghreifftiau gwahanol.

Yr enw ar y pellter o gwmpas unrhyw siâp yw’r perimedr. Gallwch weithio allan y perimedr trwy adio’r holl ochrau. Caiff yr ochrau eu mesur mewn unedau hyd neu bellter, fel centimetrau, metrau neu gilometrau. Wrth ichi gyfrifo perimedr siâp, mae angen ichi wneud yn siŵr bod yr holl fesuriadau yn yr un unedau, gan drosi os oes angen.

Described image
Ffigur 14 Edrych ar berimedrau

Enghraifft: Hyd o ruban

Edrychwch ar Ffigur 15 i weithio allan faint o ruban addurniadol mae ei angen i fynd o gwmpas pob siâp.

Described image
Ffigur 15 Cyfrifo hyd o ruban

Dull

Mae angen ichi fesur yr holl ochrau a’u hadio at ei gilydd.

Awgrym: Mae ochrau cyferbyn petryal yr un hyd.

Ochrau’r bocs petryal yw:

6 + 6 + 4 + 4 = 20 cm

Bydd arnoch angen 20 cm o ruban.

Ochrau’r bocs triongl yw:

5 + 5 + 5 = 15 cm

Bydd arnoch angen 15 cm o ruban.

Enghraifft: Ymylon lawnt

Hyd yma, wrth ichi weithio allan perimedr petryal, rydych wedi adio’r pedair ochr at ei gilydd. Fodd bynnag, mae yna ffordd gyflymach o gyfrifo’r perimedr. Efallai eich bod wedi sylwi bod gan bob petryal ddwy ochr fer hafal a dwy ochr hir hafal. Felly gallwch weithio allan perimedr petryal trwy ddefnyddio pob rhif ddwywaith.

(2 × ochr hir) + (2 × ochr fer) = perimedr

Yr ochr hir yw’r hyd. Yr ochr fer yw’r lled.

(Mae sgwâr yn fath o betryal lle mae’r pedair ochr yr un hyd. Felly i ganfod perimedr sgwâr, mae angen ichi luosi hyd un ochr â 4).

Faint o fetrau o ymyl lawnt sydd arnoch ei angen i fynd o gwmpas y lawnt hon?

Described image
Ffigur 16 Lawnt

Dull

Mae angen ichi weithio allan dwywaith y lled ac, adio dwywaith yr hyd:

(2 × 15) + (2 × 8)

Pan fyddwch wedi gweithio’r rhain allan, mae’n ei gwneud yn haws cael yr ateb i’r cwestiwn:

(2 × 15) + (2 × 8) = 30 + 16 = 46 m

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 7: Canfod y perimedr

  1. Mae angen ichi osod baneri bach o gwmpas y cyrtiau tenis ar gyfer y bencampwriaeth leol. Faint o faneri bach sydd arnoch eu hangen?

    Described image
    Ffigur 17 Pedwar cwrt tenis
  2. Mae Jackie eisiau rhoi ffens o gwmpas ei gardd lysiau. Mae’r ardd ar siâp petryal, 5 metr o hyd wrth 4 m o led. Pa hyd o ffens sydd ei angen?

Ateb

  1. Hyd ochrau’r cyrtiau tenis yw 20 m a 40 m.

    • (2 × 20) + (2 × 40) = 40 + 80 = 120

    Felly bydd angen 120 m o faneri bach.

  2. Hyd ochrau’r ardd yw 5 m a 4 m.

    • (2 × 5) + (2 × 4) = 10 + 8 = 18

    Felly bydd angen 18 m o ffens.