Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Cyfaint

Cyfaint yw’r mesuriad o faint o ofod sydd mewn gwrthrych solid (3D). Caiff cyfaint ciwb neu giwboid ei fesur trwy luosi hyd â lled ag uchder. Caiff ei fesur bob amser mewn unedau ciwbig, fel mm3, cm3, m3, ac ati.

Enghraifft: Cyfaint ciwboid

Beth yw cyfaint bocs sydd â hyd o 8 cm, lled o 4 cm ac uchder o 2 cm?

Described image
Ffigur 27 Bocs

Dull

Y cyfaint yw:

8 cm × 4 cm × 2 cm

Gallwch ysgrifennu hyn hefyd fel:

32 cm (8 cm × 4 cm) × 2 cm = 64 cm3

Gwyliwch y clip canlynol i weld mwy o enghreifftiau:

Fideos YouTube (Saesneg yn unig)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 11: Cyfrifo cyfaint

  1. Cyfrifwch y cyfeintiau canlynol:

Awgrym: Fel yn achos perimedr ac arwynebedd, efallai bydd angen ichi drosi i wneud yr unedau yr un peth.

HydLledUchderCyfaint
6 m2 m3 m
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
10 mm10 mm10 mm
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
36 mm2 cm4 cm
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
9 m2 m180 cm
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
  1. Lled pwll tywod plant yw 1 m a’i hyd yw 1.5 m. Pa gyfaint o dywod fyddai ei angen i lenwi’r pwll i ddyfnder o 10 cm? (Noder bod dyfnder yr un peth ag uchder ond wedi’i fesur ar i lawr.)

  2. Mae Dai wedi adeiladu storfa pren llosgi sy’n mesur 2 m × 1 m × 1 m. Mae Dai eisiau archebu pren yn barod at y gaeaf. Dim ond mewn llwythi 1.5 m3 mae’r cyflenwr lleol yn gwerthu pren. Fydd storfa Dai yn ddigon mawr i ddal un llwyth?

Ateb

  1. Mae’r ateb fel a ganlyn:

HydLledUchderCyfaint
6 m2 m3 m36 m3
10 mm10 mm10 mm1 000 mm3
36 mm (trosi i 3.6 cm)2 cm4 cm28.8 cm3
9 m2 m180 cm (trosi i f 1.8 m)32.4 m3
  1. Yn gyntaf mae angen ichi drosi 10 cm yn fetrau – mae’n 0.1 m. Yna gallwch gyfrifo’r arwynebedd:

    • 1 m × 1.5 m × 0.1 m = 0.15 m3

  2. Cyfaint storfa Dai yw 2 m × 1 m × 1 m = 2 m3 , felly bydd yn ddigon mawr i ddal un llwyth o’r pren llosgi.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi cyfrifo cyfaint ciwbiau a chiwboidau.