Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Mapiau

Mae map yn rhoi ichi luniad manwl o le. Caiff mapiau eu defnyddio i ganfod sut i fynd o’r naill le i’r llall. Maen nhw’n defnyddio graddfa sy’n caniatáu ichi gyfrifo’r pellter gwirioneddol o’r naill le i’r llall.

Os edrychwch mewn llyfryn gwyliau byddwch yn gweld llawer o fapiau. Yn aml cânt eu defnyddio i ddangos cynllun y gyrchfan gwyliau. Maen nhw’n dangos ble mae ychydig o bethau pwysig, fel y siopau lleol, gwestai, y traeth, pyllau nofio a bwytai.

Mae’n bwysig deall sut i ddarllen map fel nad ydych yn mynd yn rhy bell i ffwrdd o’r lleoedd rydych eisiau bod yn agos iddynt – neu’n rhy agos i’r lleoedd rydych eisiau eu hosgoi!

Enghraifft: Map gwyliau

Dyma enghraifft nodweddiadol o fap a welwch mewn llyfryn gwyliau.

Described image
Ffigur 30 Lluniad wrth raddfa o gyrchfan gwyliau

Pa mor bell oddi wrth ei gilydd mae popeth ar y map hwn? Mae pob sgwâr yn mesur 1 cm ar y map.

Dull

Fel yn achos lluniadau wrth raddfa, y peth mae angen ichi ei wybod cyn y gallwch ddeall y map yw’r raddfa a sut i’w darllen.

Mae hyn yn golygu, am bob sgwâr 1 cm ar y map, mae 10 metr (10 m) mewn bywyd go iawn.

Gan ddefnyddio’r raddfa, gallwch ddehongli’r data ar y map a gweithio allan pa mor bell yw’r gwahanol leoedd oddi wrth ei gilydd.

I wneud hyn mae angen ichi fesur y pellteroedd ar y map ac yna lluosi’r pellteroedd mewn centimetrau â 10 i gael y pellter gwirioneddol mewn metrau.

Felly ar y map hwn, mae Clwb Nos Grwfi 1 cm o Westy Parti. Mewn bywyd go iawn, 10 m yw hynny – ddim yn bell o gwbl. Byddai gwybod hyn yn gallu effeithio ar eich dewis i aros yng Ngwesty Parti, gan ddibynnu a ydych chi’n hoffi clybiau nos ai peidio.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 13: Defnyddio map i ganfod pellteroedd

Dewch inni ddefnyddio map y gyrchfan gwyliau.

Described image
Ffigur 31 Lluniad wrth raddfa o gyrchfan gwyliau

Awgrym: Mae mynedfeydd yr adeiladau wedi’u marcio â chroesau ar y map. Mae angen ichi fesur o’r naill groes i’r llall.

  1. Beth yw’r pellter mewn bywyd go iawn rhwng y dafarn a Gwesty’r Haul mewn metrau?

  2. Pa mor bell yw hi mewn bywyd go iawn rhwng y Siop Pob Peth a Bistro’r Traeth mewn metrau?

  3. Beth yw’r pellter mewn bywyd go iawn rhwng Clwb Nos Grwfi a’r traeth mewn metrau?

Nawr rhowch gynnig ar y rhain:

  1. Mae gan fap raddfa o 1 cm i 5 km. Ar y map, mae’r pellter rhwng dwy dref yn mesur 6 cm. Beth yw’r pellter gwirioneddol rhwng y ddwy dref? Cofiwch ddangos yr unedau yn eich ateb.

  2. Nodir graddfa fel 1 cm i 2 km. O’i fesur ar fap, y pellter o’r coleg i’r orsaf fysiau yw 4.5 cm. Beth yw’r pellter gwirioneddol?

Ateb

  1. Y pellter ar y map rhwng y dafarn a Gwesty’r Haul yw 4 cm, a’r raddfa yw 1 cm : 10 m. Oherwydd bod angen ichi weithio allan y mesuriad gwirioneddol, mae angen ichi luosi mesuriad y map â 10:

    • 4 cm × 10 = 40

    Y pellter gwirioneddol mewn bywyd go iawn rhwng y dafarn a Gwesty’r Haul yw 40 m.

  2. Y pellter ar y map yw 2 cm. Gan ddefnyddio’r un cyfrifiad, y pellter gwirioneddol mewn bywyd go iawn rhwng y Siop Pob Peth a Bistro’r Traeth yw 20 m.

  3. Y pellter ar y map yw 6 cm. Gan ddefnyddio’r un cyfrifiad, y pellter gwirioneddol mewn bywyd go iawn rhwng Clwb Nos Grwfi a’r traeth yw 60 m.

  4. Y raddfa yw 1 cm i 5 km. Y pellter ar y map yw 6 cm, felly lluoswch 6 × 5 km i gael ateb o 30 km.

  5. Y raddfa yw 1 cm i 2 km. Y pellter ar y map yw 4.5 cm, felly lluoswch 4.5 × 2 km i gael ateb o 9 km.

Crynodeb

Nawr mae’n bryd adolygu’ch dysgu yn y cwis diwedd y cwrs.