Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Casglu data

Yn y cyflwyniad, soniwyd am y ffyrdd gwahanol y gallwch ddangos gwybodaeth – er enghraifft, mewn tablau, diagramau, siartiau neu graffiau. Fodd bynnag, cyn y gallwch greu unrhyw un o’r rhain, mae angen ichi gasglu’r wybodaeth i’w rhoi ynddynt.

Un ffordd o gasglu gwybodaeth yw trwy arolwg. Ydych chi erioed wedi cael eich stopio ar y stryd gan rywun sy’n gwneud arolwg, neu wedi cwblhau un ar lein?

Yn aml byddwch yn gweld arolygon ganYouGov [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy’n enghraifft o gwmni ymchwil marchnata a data, y cyfeirir ato ar raglenni newyddion ar y teledu neu mewn papurau newydd. Mae YouGov yn comisiynu arolygon ar wahanol bynciau, gan gynnwys y rhai canlynol (efallai y byddwch eisiau agor hwn mewn ffenestr neu dab newydd):

Noder o’r enghreifftiau hyn sut y gall canlyniadau arolwg gael eu cyflwyno mewn ffyrdd gwahanol.

Dull o gasglu data yw arolwg. Ond ar ôl ichi gasglu’r data, mae angen eu trefnu a’u dangos mewn ffordd sy’n hawdd ei deall.

Mae gwneud hyn yn syml wrth drin data arwahanol – hynny yw, data sy’n cynnwys pethau ar wahân y gellir eu cyfrif. Er enghraifft:

  • nifer y bobl ar fws

  • nifer y ceir mewn maes parcio

  • nifer y dail ar goeden.

Mae siart cyfrif yn ffordd ddefnyddiol o gasglu gwybodaeth. Mae siart cyfrif yn cynnwys cyfres o rifiadau. Mae’n gweithio fel hyn:

  • Ar gyfer pob peth, neu uned, rydych yn ei gyfrif – pob person ar fws, pob car mewn maes parcio, pob deilen ar goeden, neu beth bynnag – rydych yn gwneud marc rhifiad o fel hyn:

    Marc rhifiad o 1.

  • Pan rydych yn cyfrif hyd at bum uned, rydych yn ‘croesi allan’ y pedwar marc rhifiad o arall fel hyn:

    Marc rhifiad o 5.

  • Yna rydych yn parhau i gyfrif yr unedau mewn grwpiau o bump, fel a ganlyn:

    Marc rhifiad o 4. = 4

    Marc rhifiad o 5. = 5

    Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 1. = 6

    Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 5. = 10

Nodyn: Efallai eich bod wedi clywed am rywbeth o’r enw tabl rhifiadau. Yr un peth yw siart cyfrif a thabl cyfrif.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 1: Ail- ysgrifennu rhifau fel rhifiadau

Ysgrifennwch y rhifau canlynol ar ffurf rhifiad:

  1. 3

  2. 7

  3. 9

  4. 14

  5. 18

Ateb

  1. Marc rhifiad o 3.

  2. Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 2.

  3. Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 4.

  4. Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 4.

  5. Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 3.

Enghraifft: Defnyddio siart cyfrif

Gallwch ddefnyddio siartiau rhifiad i gofnodi data wrth ichi gynnal arolygon a chasglu data.

Ydych chi erioed wedi gweld pobl wrth ochr y ffordd yn cynnal arolwg traffig? Efallai eu bod yn cofnodi nifer y bobl ym mhob car, ac ar ddiwedd yr arolwg, gallent adio’r rhifiadau at ei gilydd a chofnodi’r cyfansymiau. Byddai eu siart cyfrif yn edrych rhywbeth fel hyn:

Nifer y bobl yn y carNifer y ceirCyfanswm nifer y ceir
1Marc rhifiad o 4.4
2Marc rhifiad o 3.3
3Marc rhifiad o 1.1
4Marc rhifiad o 2.2
5+Marc rhifiad o 1.1

Pam defnyddio siartiau rhifiadau felly? Oherwydd maen nhw’n ffordd gyflym a syml o gofnodi data.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgareddau canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Awgrym:Ticiwch neu rhowch linell trwy bob cofnod wrth ichi ei gynnwys yn eich siart cyfrif. Bydd hyn yn eich helpu i beidio â cholli’ch lle.

Gweithgaredd 2: Creu siart cyfrif

Mewn arolwg, gofynnwyd i ddau ddeg o bobl faint o bobl oedd yn byw yn eu tŷ. Dyma’r atebion:

23143
23212
13422
31322

Defnyddiwch y wybodaeth yn y tabl uchod i greu eich siart cyfrif eich hun o faint o bobl sy’n byw mewn tŷ. Dylech drefnu’ch siart cyfrif fel a ganlyn:

Nifer y bobl yn y tŷNifer yr ymatebion
  
  
  
  

Ateb

Nifer y bobl yn y tŷNifer yr ymatebion
1Marc rhifiad o 4.
2Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 3.
3Marc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 1.
4Marc rhifiad o 2.

Gweithgaredd 3: Creu siart cyfrif

Mae’r wybodaeth ganlynol yn gofnod o liwiau’r ceir mewn maes parcio un amser cinio:

cochmelyncoch glasgwyn
glasdugwyncochgwyrdd
cochgwyngwyrddduglas
gwynglascochcochdu

Lluniadwch siart cyfrif i gyflwyno’r data.

Ateb

Dylai’ch tabl edrych fel hyn:

Nifer y ceir â lliwiau penodol mewn maes parcio un amser cinio
Lliw y carNifer y ceirCyfanswm
DuMarc rhifiad o 3.3
GlasMarc rhifiad o 4.4
GwyrddMarc rhifiad o 2.2
CochMarc rhifiad o 5.Marc rhifiad o 1.6
GwynMarc rhifiad o 4.4
MelynMarc rhifiad o 1.1

Sylwch fod teitl gan y siart cyfrif. Mae’n bwysig rhoi teitl cyffredinol i bob tabl, graff neu siart a luniwch.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut y caiff siartiau cyfrif eu defnyddio.