Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Siartiau Bar

Ffordd arall o gyflwyno gwybodaeth yw siart bar.

Mae siartiau bar yn ddefnyddiol oherwydd eu bod yn dangos data’n glir. Rhaid iddynt gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Teitl sy’n esbonio beth mae’r siart bar yn ei olygu.

  • Labeli sy’n dweud wrthych chi beth mae pob bar yn ei olygu. Gallai hyn fod yn allwedd neu’n label o dan y llinell sy’n rhedeg ar hyd gwaelod y graff bar (yr echelin lorweddol).

  • Rhaid bod gan y llinell sy’n mynd i fyny ochr chwith y graff bar (yr echelin fertigol) rifau ar gyfyngau rheolaidd (graddfa). Mae hon yn dweud wrthych chi pa mor fawr yw’r bariau fel y gall y darllenydd ddarllen y data.

Enghraifft: Arolwg traffig

Dewch inni edrych ar y data o arolwg traffig sy’n cael eu dangos mewn tabl:

Lliw’r carNifer y ceir
Llwyd4
Du3
Coch1
Glas2
Gwyn1

Gallai’r data hyn gael eu cyflwyno mewn siart bar, fel a ganlyn:

Described image
Ffigur 13 Siart bar arolwg traffig

Dull

Cyn ichi ddechrau lluniadu’ch siart bar, mae angen ichi benderfynu beth fydd eich labeli a pha gyfyngau rhif y byddwch yn eu defnyddio – hynny yw, pa mor ‘dal’ fydd eich bariau.

I wneud hyn mae angen ichi edrych ar eich data a chanfod y nifer fwyaf o achosion (hynny yw, y categori mwyaf). Nid yw hyn yn rhy anodd yn yr arolwg traffig hwn: y nifer fwyaf o geir mewn un categori yw’r ‘ceir llwyd’, oedd â phedwar car.

Mae hyn yn golygu mai 4 yw’r rhif mwyaf ar yr echelin fertigol. Mae’r rhifau yn yr arolwg yn ddata arwahanol – allwch chi ddim fod â hanner car! – felly 0, 1, 2, 3 a 4 fydd y rhifau ar yr echelin hon. Dylai’r echelin fertigol ddechrau ar 0 bob amser a chodi gan yr un faint bob tro. Gallwn gael y label i’r echelin hon o’r tabl: ‘Nifer y ceir’.

Awgrym: Mae data arwahanol yn ddata sy’n cynnwys pethau sydd ar wahân ac y gellir eu cyfrif.

Nawr mae angen ichi benderfynu faint o farrau y byddwch yn eu lluniadu. Mae hyn wedi’i benderfynu eisoes oherwydd mae pum categori yn yr arolwg:

  • ceir llwyd

  • ceir du

  • ceir coch

  • ceir glas

  • ceir gwyn.

Felly bydd pum bar ar hyd echelin lorweddol y siart bar, y dylid eu labelu ‘Lliw’r car’.

Pan fyddwch wedi lluniadu’r echelinau a’r labeli, gallwch luniadu’r bariau fel a ganlyn:

  • Defnyddiwch bren mesur.

  • Uchder pob bar yw’r rhif sydd gennych ar gyfer y categori hwnnw.

  • Rhaid i led y bariau fod yn gyfartal.

  • Pan fyddwch wedi gorffen lluniadu’ch siart bar, peidiwch ag anghofio rhoi teitl iddo.

Crynodeb o’r dull

  • Canfyddwch beth yw’r nifer fwyaf o eitemau. Bydd hyn yn rhoi ichi’r rhif mwyaf ar yr echelin fertigol (yr un ar yr ochr chwith). Hwn fydd maint y bar talaf.

  • Penderfynwch faint o farrau i’w lluniadu: hwn yw nifer y categorïau. Dylai lled y bariau fod yn gyfartal.

  • Lluniadwch eich echelinau a’u labelu.

  • Defnyddiwch bren mesur i l bariau ’ch bariau .

  • Penderfynwch ar deitl i’ch siart bar.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 11: Creu siart bar

Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer yr hediadau o faes awyr rhanbarthol ar un diwrnod o’r wythnos gan wahanol gwmnïau awyrennau.

Cwmni awyrennauNifer yr hediadau
Reilly Air3
Easyfly4
English Airways1

Lluniadwch siart bar i ddangos y data hyn. Cofiwch labelu eich echelin a rhoi teitl i’ch siart.

Ateb

Ystyriwch yr awgrymiadau canlynol cyn mynd ymlaen:

Pedwar yw’r nifer fwyaf o hediadau ar un diwrnod, felly mae’n rhaid ichi sicrhau bod yr echelin fertigol yn dechrau ar 0 ac yn mynd i fyny i 4.

Rhaid ichi labelu’r echelin lorweddol ag enwau’r cwmnïau awyrennau a’r echelin fertigol â nifer yr hediadau.

Rhaid i’r teitl ddweud yn glir pa ddata mae’r siart bar yn eu dangos.

Dylai’ch graff edrych rhywbeth fel y canlynol:

Described image
Ffigur 14 Siart bar hediadau

Gyda rhifau mwy, efallai na fydd eich graddfa’n codi fesul un. Efallai y bydd eich graddfa’n codi fesul dau, pump neu ddeg ac ati, gan ddibynnu ar y rhifau rydych chi’n gweithio gyda nhw. Y peth pwysig i’w gofio yw bod yn rhaid i’r raddfa godi fesul cyfyngau cyfartal.

Gweithgaredd 12: Creu siart bar arall

Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer y brechdanau gwahanol sy’n cael eu gwerthu gan gaffi lleol mewn un wythnos:

Math o frechdanNifer y brechdanau a werthir
Caws35
Tiwna18
Wy24
Cyw iâr40
Bacwn38

Lluniadwch siart bar i gynrychioli’r data hyn. Peidiwch ag anghofio labelu’ch echelin, rhoi teitl i’ch siart a gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio graddfa addas.

Ateb

Y nifer fwyaf o frechdanau a werthwyd yw 40, felly dylech sicrhau bod yr echelin fertigol yn dechrau ar 0 ac yn mynd i fyny i 40. Mae hwn yn rhif eithaf mawr, felly efallai y bydd eich graddfa’n mynd i fyny mewn cynyddiadau o bump neu hyd yn oed deg.

Rhaid ichi ychwanegu enwau llenwadau’r brechdanau i’r echelin lorweddol a rhoi labeli addas i’r echelinau – er enghraifft, ‘Llenwadau brechdanau’ ar gyfer yr echelin lorweddol a ‘Nifer y brechdanau a werthwyd’ ar gyfer yr echelin fertigol.

Rhaid i’r teitl ddweud yn glir pa ddata mae’r siart bar yn eu dangos.

Dylai’ch siart bar edrych rhywbeth fel hyn:

Described image
Ffigur 15 Siart bar brechdanau a werthwyd

Gellir creu graffiau’n hawdd ar gyfrifiadur. Mae yna fideos ar YouTube a all eich helpu i ddysgu sut i wneud hyn.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i gyflwyno data mewn siartiau bar.