Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Graffiau llinell

Nawr eich bod wedi edrych ar siartiau cylch a siartiau bar, dewch inni edrych ar graffiau llinell. Caiff y rhain eu lluniadu trwy farcio (neu blotio) pwyntiau ac yna tynnu llinell syth rhyngddynt. Efallai eich bod wedi eu gweld mewn llyfrynnau gwyliau neu o bosibl ar y teledu.

Described image
Ffigur 16 Graff llinell cyfraddau llog

Awgrym: Mae’n well defnyddio papur graff neu bapur sgwariau wrth luniadu graffiau llinell, oherwydd mae’n ei gwneud yn haws plotio’r pwyntiau.

Enghraifft: Y gwerthwr tai

Sut fyddech chi’n cyflwyno gwybodaeth fel graff llinell? Gwyliwch y fideo canlynol i gael gwybod.

Download this video clip.Video player: 03_ani_line_graphs_welsh_boards.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Crynodeb o’r dull

I luniadu graff llinell, mae angen ichi:

  • luniadu’r echelinau llorweddol a fertigol, a’u labelu

  • rhannu’r echelinau hyn yn raddfeydd addas – i wneud hyn, mae angen ichi edrych ar y data a chanfod beth yw’r rhif lleiaf a’r rhif mwyaf

  • plotio’r pwyntiau o’ch data, gan ddefnyddio pensil i wneud croesau bach

  • tynnu llinell rhwng y pwyntiau gan ddefnyddio pren mesur

  • rhoi teitl i’ch graff.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 13: Creu graff llinell

Yn aml, defnyddir graffiau llinell mewn llyfrynnau gwyliau i ddangos y tymereddau neu’r oriau o heulwen mewn cyrchfan benodol.

Mae’r tabl canlynol yn dangos yr oriau o heulwen mewn cyrchfan gwyliau. Gan ddefnyddio’r data o’r tabl, lluniadwch graff llinell ac yna atebwch y cwestiynau isod.

MisOriau o heulwen
Mai6
Mehefin7
Gorffennaf8
Awst9
Medi8
Hydref7
  1. Pa fis oedd yr un mwyaf heulog?

  2. Ym mha fis cafwyd yr heulwen leiaf?

Ateb

Wrth luniadu’ch graff llinell, dylech:

  • luniadu’r echelin lorweddol gan ei labelu ‘Misoedd’; a’r echelin fertigol gan ei labelu ‘Oriau o heulwen’

  • rhannu’r echelinau’n raddfeydd addas – 6 a 9 yw’ch rhifau lleiaf a mwyaf, felly gallai’ch graddfa fod yn un sgwâr am un awr

  • plotio’r pwyntiau o’ch data, gan ddefnyddio pensil a gwneud croesau bach

  • tynnu llinell rhwng y pwyntiau gan ddefnyddio pren mesur

  • rhoi teitl i’ch graff, fel ‘Oriau o heulwen mewn cyrchfan gwyliau dros gyfnod o chwe mis’.

Dylai’r graff llinell gorffenedig edrych rhywbeth fel hyn:

Described image
Ffigur 17 Graff llinell heulwen

Yr atebion i’r cwestiynau:

  1. Awst yw’r mis mwyaf heulog.

  2. Mai yw’r mis lleiaf heulog.

Edrychwch ar y graff llinell canlynol. Weithiau mae’n gwneud synnwyr creu graff ar dudalen ar draws yn hytrach nag ar i fyny.

Described image
Ffigur 18 Graff llinell tymereddau

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i gyflwyno data mewn graffiau llinell.