Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Dewis y ffordd orau i gyflwyno’ch data

Rydych wedi edrych ar sawl ffordd o gyflwyno data, ond sut ydych chi’n dewis yr un orau i’w defnyddio?

  • Gellir defnyddio tablau i roi trefn ar ddata cymhleth. Maen nhw’n ddefnyddiol os oes angen ichi chwilio am wybodaeth.

  • Mae pictogramau’n ffordd dda o ddangos data mewn ffordd hygyrch a ‘hwyliog’. Maen nhw’n dda am ddangos data syml. Fodd bynnag, gall allwedd lluniau ei gwneud yn anodd bod yn fanwl gywir pan ddefnyddir yr allwedd i gynrychioli gwerthoedd mwy: os yw’r ffigur canlynol yn cynrychioli 50...

    Described image

    ... beth mae’r ffigur hwn yn ei gynrychioli?

    Described image

    Gallai gynrychioli 35, ond hefyd gallai gynrychioli 34, 36 neu 37 ac ati.

  • Mae siartiau cylch yn dangos y dadansoddiad o wahanol rannau o set ddata gyfan. Mae pob segment yn cynrychioli canran neu gyfran o’r maint cyfan. Mae siartiau cylch yn dda am ddangos pa rannau yw’r rhai mwyaf neu’r rhai lleiaf yn y cylch. Dydyn nhw ddim cystal pan nad oes llawer o wahaniaeth rhwng y gwerthoedd, gan y gall fod yn anodd gweld amrywiadau bach.

  • Mae siartiau bar yn wych ar gyfer cymharu data arwahanol.

  • Yn aml, defnyddir graffiau llinell i ddangos newidiadau neu dueddiadau mewn data dros amser.

Gweithgaredd 14: Dewis sut i ddangos data

Dewiswch y ffordd orau i ddangos y setiau data canlynol:

  1. Nifer yr ymwelwyr ag arddangosfa mewn diwrnod.

  2. Y dadansoddiad o bob grŵp bwyd sy’n rhan o ddiet iach.

  3. Yr elw a wnaed gan ganghennau gwahanol o siop dros dri mis.

  4. Nifer y cleifion a fethodd apwyntiadau meddyg teulu dros gyfnod o chwe mis mewn ystafell aros meddygfa.

Ateb

  1. Byddai graff llinell yn addas oherwydd byddai’n dangos y newid yn niferoedd yr ymwelwyr dros y diwrnod.

Described image
Ffigur 19 Graff llinell Neuadd Dewi Sant
  1. Byddai siart cylch yn dangos cyfran pob grŵp bwyd o’i gymharu â’r lleill.

Described image
Ffigur 20 Siart cylch diet iach
  1. Byddai siart bar yn caniatáu ichi gymharu’r elw o’r canghennau gwahanol.

Described image
Ffigur 21 Siart bar Siopau Cambria
  1. Byddai pictogram yn gwneud y canlyniadau’n hygyrch ac yn hawdd eu darllen.

Described image
Ffigur 22 Pictogram apwyntiadau a fethwyd

Hunan-wirio: cofiwch y datganiadau canlynol bob amser

Cyn symud ymlaen, mae angen ichi wneud yn siŵr y gallwch gasglu, trefnu a dangos data ar ffurf tablau, diagramau, siartiau a graffiau. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch hun:

  • Pan dwi’n lluniadu tablau, diagramau, siartiau a graffiau, ydi’r data’n cael eu dangos yn glir fel ei bod yn hawdd deall y wybodaeth?

  • Ydw i bob amser yn cynnwys teitlau, graddfeydd, labeli ac allweddi pan mae eu hangen?

  • Ydw i wedi dewis y ffordd fwyaf priodol o gyflwyno’r data?

Os nad ydych yn siŵr am y pwyntiau hyn, dangoswch eich gwaith i rywun arall a gofynnwch a yw’n deall y data.