Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Rhifau cyfan

Beth yw rhif cyfan? Yr ateb yn syml yw ‘unrhyw rif nad yw’n cynnwys ffracsiwn neu ran ddegol’.

Felly er enghraifft, mae 3 yn rhif cyfan, ond NID yw one divided by two neu 3.25 yn rhifau cyfan.

Gall rhifau fod yn bositif neu’n negatif.

Gellir ysgrifennu rhifau positif ag arwydd plws (+) neu hebddo, felly’r un peth yw 3 a +3.

Mae rhifau negatif ag arwydd minws (-) o’u blaen bob amser, fel –3, –5 or –2.