Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.3 Ysgrifennu rhifau mawr

Efallai y bydd angen ichi ddarllen rhifau llawer mwy na’r rhai rydym wedi edrych arnyn nhw eisoes.

Cymerwch y rhif 9 046 251. Mae gwerth pob digid fel a ganlyn:

9 o filiynau

0 o gannoedd o filoedd

4 o ddegau o filoedd (neu 40 o filoedd)

6 o filoedd

2 o gannoedd

5 o ddegau

1 o unedau

Er mwyn ei gwneud yn haws darllen rhifau mawr, rydym yn eu hysgrifennu mewn grwpiau o dri digid, gan ddechrau o’r ochr dde:

Yn aml, caiff 6532 ei ysgrifennu fel 6 532 (neu 6,532).

Yn aml, caiff 25897 ei ysgrifennu fel 25 897 (neu 25,897).

Yn aml, caiff 596124 ei ysgrifennu fel 596 124 (neu 596,124).

Yn aml, caiff 7538212 ei ysgrifennu fel 7 538 212 (neu 7,538,212).

Hefyd, gall defnyddio grid gwerth lle eich helpu i ddarllen rhifau mawr. Mae’r grid gwerth lle yn grwpio’r digidau ichi, gan ei gwneud yn haws darllen y rhif cyfan.

Edrychwch ar y grid gwerth lle isod. Miliynau yw’r digidau mwyaf, ond gallwn ddefnyddio gwerth lle i gofnodi rhifau o unrhyw faint, gan gynnwys rhifau llawer mwy na hyn.

MiliwnMil
MiliynauCannoedd o filoeddDegau o filoeddMiloeddCannoeddDegauUnedau

Efallai y byddwch hefyd eisiau gwylio’r clip hwn i’ch helpu i ddeall gwerth lle gyda rhifau mawr:

Gwylio’r fideo ar.

Fideos YouTube (Saesneg yn unig)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Enghraifft: Darllen rhifau mawr gan ddefnyddio grid gwerth lle

Sut fyddech chi’n dweud y rhif yn y grid gwerth lle?

MiliwnMil
MiliynauCannoedd o filoeddDegau o filoeddMiloeddCannoeddDegauUnedau
7406894

Dull

Mae angen ichi ddweud y rhif un adran ar y tro:

Saith (7) miliwn,

pedwar cant a chwe (406) mil,

wyth cant a naw deg pedwar (894).

Felly’r rhif yw saith miliwn, pedwar cant a chwe mil, wyth cant a naw deg pedwar (7 406 894).

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol, gan ddefnyddio’r grid gwerth lle i’ch helpu os oes angen.

Gweithgaredd 3: Rhifau mawr

  1. Ysgrifennwch y rhifau canlynol mewn geiriau:
    • a.765 228
    • b.1 655 501
    • c.3 487 887
  2. Ysgrifennwch y geiriau canlynol mewn rhifau:
    • a.Chwe chant ac wyth mil, naw cant a deg.
    • b.Dwy filiwn, saith cant ac un deg un mil, un cant a chwech.
    • c.Wyth miliwn, naw can mil, pedwar cant.
  3. Rhowch y rhifau canlynol yn nhrefn eu maint, gan ddechrau gyda’r lleiaf:
    • 496 832
    • 1 260 802
    • 258 411
    • 482 112
    • 1 248 758
    • 1 118 233

Ateb

  1. Mae’r atebion fel a ganlyn:
    • a.Saith cant a chwe deg pum mil, dau gant a dau ddeg wyth.
    • b.Un filiwn, chwe chant a phum deg pum mil, pum cant ac un.
    • c.Tair miliwn, pedwar cant ac wyth deg saith mil, wyth cant ac wyth deg saith.
  2. Mae’r atebion fel a ganlyn:
    • a.608 910
    • b.2 711 106
    • c.8 900 400
  3. Y drefn gywir yw:
    • 258 411
    • 482 112
    • 496 832
    • 1 118 233
    • 1 248 758
    • 1 260 802