Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.4 Rhifau negatif

Described image

Hyd yma, dim ond rhifau positif rydych wedi edrych arnyn nhw, ond mae rhifau negatif yr un mor bwysig. Mae gan rifau negatif arwydd minws (–) o’u blaen.

Rhai enghreifftiau o ble ceir rhifau negatif mewn bywyd go iawn yw tymereddau a balansau yn y banc, er gobeithio na fydd y gweddill banc yn dangos gormod o rifau negatif!

Efallai eich bod wedi gweld rhifau negatif mewn adroddiadau tywydd lle mae tymheredd o dan y rhewbwynt, er enghraifft –2°C, neu ar becynnau bwyd rhewedig.

Os bydd gennych orddrafft yn y banc, efallai y gwelwch arwyddion minws wrth ochr y ffigurau. Os yw cyfriflen banc yn darllen –£30, er enghraifft, mae hyn yn dweud wrthych chi beth yw maint eich gorddrafft. Mewn geiriau eraill, faint sydd arnoch i’r banc!

Ble ydych chi wedi gweld rhifau negatif yn ddiweddar? Edrychwch ar y thermomedr hwn:

Described image
Ffigur 2 Rhifau negatif ar thermomedr

Mae’n dangos inni fod:

  • –10°C yn dymheredd is na –5°C
  • –15°C yn dymheredd is na –10°C.

Awgrym: Mae ‘is’ yn meddwl ‘llai na’.

Po isaf yw’r tymheredd, oeraf yw hi.

Gweithgaredd 4: Defnyddio rhifau negatif mewn bywyd pob dydd

  1. Mae’r tabl canlynol yn dangos y tymereddau mewn nifer o ddinasoedd ar yr un diwrnod.
DinasTymheredd
A–2°C
B–5°C
C–1°C
D–8°C
E–3°C
  • Pa un yw’r ddinas oeraf a pha un yw’r ddinas gynhesaf?
  1. Mae cyfarwyddiadau storio brand penodol o hufen iâ yn cynnwys y nodyn canlynol:

    • I gael y canlyniadau gorau, storiwch mewn tymereddau rhwng –10°C and –6°C

    Os mai –11°C, yw tymheredd eich rhewgell, fyddai’n iawn cadw’r hufen iâ hwn ynddi?

Ateb

  1. Dinas D yw’r oeraf oherwydd ganddi hi mae’r tymheredd isaf. Dinas C yw’r gynhesaf oherwydd ganddi hi mae’r tymheredd uchaf.
  2. Na, oherwydd mae –11°C yn oerach na’r amrediad a argymhellir, sef rhwng –10°C a –6°C. Mae’n debyg y byddai cadw’r hufen iâ yn eich rhewgell yn niweidio’r hufen iâ.

Rydych yn awr wedi gweld sut rydym yn defnyddio rhifau negatif mewn bywyd pob dydd, er enghraifft balansau yn y banc a thymereddau. Ceisiwch ymarfer eu defnyddio pan fyddwch yu mynd am dro. Byddwch hefyd yn defnyddio’r sgil hwn mewn nifer o gwestiynau syml sy’n dilyn.