Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.6 Adio a thynnu rhifau mawr

Adio

Rydym yn adio rhifau mawr yn yr un ffordd ag yr ydym yn adio rhifau llai:

Gwylio’r fideo ar.

Fideos YouTube (Saesneg yn unig)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 6: Adio rhifau cyfan

Cwblhewch y tasgau canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell:

  1. 8 936 + 453
  2. 3 291 + 2 520
  3. 35 + 214 + 9 963
  4. 28 550 + 865
  5. 243 552 + 64 771
  6. 698 441 + 323 118

Cofiwch y gallwch wirio’ch cyfrifiadau trwy ddefnyddio’r dull gwrthdro, sy'n golygu defnyddio’r math dirgroes o swm i wirio bod eich ateb yn gywir. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio’r dull tynnu i wirio bod cyfrifiad adio’n gywir:

630 + 295 = 925 (adio)

925 – 295 = 630 (tynnu er mwyn gwirio)

Ateb

Mae’r atebion fel a ganlyn:

  1. 9 389
  2. 5 811
  3. 10 212
  4. 29 415
  5. 308 323
  6. 1 021 559

Tynnu

Mae dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio i dynnu rhifau Mae angen ichi ddod o hyd i’r dull sy’n gweithio i chi.

Dull Dadelfennu

Er enghraifft:

843 – 266

Dilynwch y camau canlynol:

  1.  

    • a.Dechreuwch gyda’r unedau: tynnwch 6 o 3. (Ni ellir gwneud hyn).

    • b.Mae pedwar deg yn y golofn degau. Gellir rhoi un o’r rhain i’r golofn unedau.

    • c.Os caiff 10 ei adio i’r 3 gwreiddiol, nawr mae 13 gennym yn y golofn unedau: 13 – 6 = 7.

    • d.Caiff 7 ei nodi ar y llinell ateb yn y golofn unedau.

      Described image
  2.  

    • a.Nawr symudwch ymlaen at y golofn degau: tynnwch 6 o 3. Dim ond tri o ddegau sydd ar ôl, oherwydd cafodd un 10 ei adio i’r golofn unedau (Ni ellir gwneud hyn).

    • b.Mae wyth o gannoedd yn y golofn cannoedd. Trwy dynnu un o’r golofn cannoedd a’i symud i’r golofn degau, mae’n rhoi 13 yn y golofn degau: 13 – 6 = 7.

    • c.Caiff 7 ei nodi ar y llinell ateb yn y golofn degau.

      Described image
  3.  

    • a.Erbyn hyn mae 7 yn y golofn cannoedd.

    • b.Tynnwch 3 o 7: 7 – 2 = 5.

    • c.Caiff hyn ei nodi ar y llinell ateb yn y golofn cannoedd.

      Described image

Yr ateb terfynol yw 577.

Mae angen ichi fod yn ofalus wrth geisio tynnu â seroau; er enghraifft, 800 – 427. Mae’r fideo canlynol yn dangos y dull dadelfennu’n llawn, gan gynnwys ymdrin â seroau:

Gwylio’r fideo ar.

Fideos YouTube (Saesneg yn unig)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Y dull ‘benthyg a thalu’n ôl’

Er enghraifft:

765 – 39

Dilynwch y camau canlynol:

  1. Dechreuwch gyda’r unedau. Ni allwch dynnu 9 o 5.

  2. Rydych yn benthyg 10 i’w wneud yn 15.

  3. Nawr eich bod wedi benthyg, rhaid ichi ‘dalu’n ôl’ trwy ychwanegu 1 i golofn degau y rhif rydych yn ei dynnu. Mae hyn yn cynyddu’r ddau rif gan ddeg (5 + 10 = 15 and 39 + 10 = 49). Mae’r gwahaniaeth yn aros yr un peth.

    Described image

Gweithgaredd 7: Tynnu rhifau cyfan

Cwblhewch y gweithgaredd hwn gan ddefnyddio’r dull tynnu sydd fwyaf cyfarwydd ichi. Peidiwch â defnyddio cyfrifiannell.

  1. 9 965 – 742
  2. 8 163 – 7 481
  3. 27 364 – 9 583
  4. 600 987 – 4 500
  5. 975 046 – 74 308
  6. 587 342 – 369 453

Cofiwch y gallwch wirio’ch cyfrifiadau trwy ddefnyddio’r dull gwrthdro, sy'n golygu defnyddio’r dull tynnu i wirio bod eich ateb i gyfrifiad adio’n gywir. Er enghraifft:

630 + 295 = 925 (adio)

925 – 295 = 630 (tynnu i wirio)

Ateb

Mae’r atebion fel a ganlyn:

  1. 9 223
  2. 682
  3. 17 781
  4. 596 487
  5. 900 738
  6. 217 889