Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Lluosrifau a rhifau sgwâr

Wrth ymdrin â lluosi, mae’n bwysig gwybod ystyr lluosrifau a rhifau sgwâr.

Lluosrifau

Gellir rhannu lluosrif o rif yn union â’r rhif hwnnw. Felly er enghraifft, mae 12 yn lluosrif o 2, 3, 4 a 6 oherwydd:

2 × 6 = 12

4 × 3 = 12

Gweithgaredd 9: Chwilio am luosrifau

Edrychwch ar y rhes ganlynol o rifau ac yna atebwch y cwestiynau isod.

12, 17, 24, 30, 39, 45, 52, 80

  1. Pa rai o’r rhifau hyn sy’n lluosrifau o 2?
  2. Pa rai o’r rhifau hyn sy’n lluosrifau o 3?
  3. Pa rai o’r rhifau hyn sy’n lluosrifau o 5?
  4. Pa rai o’r rhifau hyn sy’n lluosrifau o 10?

Ateb

  1. Mae 12, 24, 30, 52 a 80 yn lluosrifau o 2.
    • 2 × 6 = 12
    • 2 × 12 = 24
    • 2 × 15 = 30
    • 2 × 26 = 52
    • 2 × 40 = 80
  2. Mae 12, 24, 30, 39 a 45 yn lluosrifau o 3.
    • 3 × 4 = 12
    • 3 × 8 = 24
    • 3 × 10 = 30
    • 3 × 13 = 39
    • 3 × 15 = 45
  3. Mae 30, 45 a 80 yn lluosrifau o 5.
    • 5 × 6 = 30
    • 5 × 9 = 45
    • 5 × 16 = 80
  4. Mae 30 a 80 yn lluosrifau o 10.
    • 10 × 3 = 30
    • 10 × 8 = 80

Rhifau sgwâr

Ceir rhif sgwâr pan rydych yn lluosi unrhyw rif cyfan â’i hun. Er enghraifft:

1 × 1 = 1

2 × 2 = 4

3 × 3 = 9

Awgrym: Dangosir rhifau sgwâr fel arfer fel: 12 (sy’n golygu 1 × 1), 22 (sy’n golygu 2 × 2), 32 (sy’n golygu 3 × 3), ac ati.

Gweithgaredd 10: Canfod rhifau sgwâr

Rydych wedi cael y rhifau sgwâr hyd at rif 3. Gan ddilyn yr un patrwm, beth yw’r rhifau sgwâr o 4 i 12?

Ateb

Mae’r atebion fel a ganlyn:

4 × 4 = 16

5 × 5 = 25

6 × 6 = 36

7 × 7 = 49

8 × 8 = 64

9 × 9 = 81

10 × 10 = 100

11 × 11 = 121

12 × 12 = 144