Dulliau lluosi
Mae nifer o ffyrdd o luosi, a bydd pob dull yn rhoi’r ateb cywir ichi dim ond ichi ei ddefnyddio’n gywir. Mae’r fideos canlynol yn dangos y dulliau mwyaf cyffredin ichi.
Lluosi safonol
Gwylio’r fideo ar.
Lluosi dull grid
Gwylio’r fideo ar.
Lluosi dull dellten
Gwylio’r fideo ar.
Gweithgaredd 11: Lluosi rhifau cyfan
Dewiswch y dull yr ydych yn fwyaf cyfforddus ag ef a’i ddefnyddio i gyfrifo’r symiau canlynol:
76 × 4
183 × 6
42 × 25
123 × 40
718 × 21
249 × 34
678 × 39
Mae 85 rhes o seddi mewn theatr ac mae 48 o seddi ym mhob rhes. Beth yw cyfanswm nifer y seddi?
Mae gyrrwr tacsi’n teithio 250 o filltiroedd y diwrnod. Faint o filltiroedd mae’n ei deithio mewn 15 diwrnod?
Mae 54 o bobl yn mynd ar wyliau byr ar goets i Landudno. Mae pob un yn talu £199. Beth yw cyfanswm yr arian y byddan nhw’n ei dalu?
Nawr gwiriwch eich cyfrifiadau gyda chyfrifiannell cyn edrych ar yr atebion.
Ateb
- 304
- 1 098
- 1 050
- 4 920
- 15 078
- 8 466
- 26 442
- 4 080 o seddi
- 3 750 o filltiroedd
- Cyfanswm o £10 746