Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.8 Division

Rhannu â 10, 100 a 1 000

÷ 10

Er mwyn rhannu rhif cyfan â 10 (pan mae’r rhif yn gorffen gyda sero), tynnwch sero o ddiwedd y rhif i’w wneud 10 gwaith yn llai. Er enghraifft:

20 ÷ 10 = 2

60 ÷ 10 = 6

100 ÷ 10 = 10

÷ 100

Er mwyn rhannu rhif cyfan â 100 (pan mae’r rhif yn gorffen gyda dau sero o leiaf), tynnwch ddau sero o ddiwedd y rhif.

300 ÷ 100 = 3

2 500 ÷ 100 = 25

6 000 ÷ 100 = 60

÷ 1 000

Er mwyn rhannu rhif cyfan â 1000 (pan mae’r rhif yn gorffen gyda thri sero o leiaf), tynnwch dri sero o ddiwedd y rhif.

000 ÷ 1 000 = 4

32 000 ÷ 1 000 = 32

50 000 ÷ 1 000 = 50

Gweithgaredd 12: Rhannu â 10, 100 a 1 000

Cyfrifwch y canlynol:

  1. 70 ÷ 10
  2. 32 ÷ 10
  3. 120 ÷ 10
  4. 8 500 ÷ 100
  5. 2 100 ÷ 100
  6. 52 000 ÷ 100
  7. 34 000 ÷ 1 000
  8. 120 000 ÷ 1 000
  9. 450 000 ÷ 1 000
  10. Caiff prennau mesur eu gwerthu mewn bocsys o ddeg. Faint o focsys fydd 350 o brennau mesur yn eu llenwi?
  11. Mae 100 centimetr mewn 1 metr. Beth yw 18 000 centimetr mewn metrau?
  12. Mae deg o bobl yn ennill £16 000 ar y loteri ac yn ei rannu. Faint o arian fydd pob un yn ei ennill?

Ateb

  1. 7
  2. 32
  3. 12
  4. 85
  5. 21
  6. 520
  7. 34
  8. 120
  9. 450
  10. 35 o focsys
  11. 180 metr
  12. £1 600