Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.9 Nodyn ar y pedwar gweithrediad

Adio, tynnu, lluosi a rhannu yw’r pedwar gweithrediad. Byddwch eisoes yn defnyddio’r rhain yn eich bywyd pob dydd (p’un a ydych chi’n sylweddoli hynny ai peidio!). Mae bywyd pob dydd yn gofyn inni ddefnyddio mathemateg trwy’r amser – er enghraifft, gwirio eich bod wedi cael y newid cywir, gweithio allan faint o becynnau o deisennau mae arnoch eu hangen ar gyfer parti pen-blwydd i blentyn, a rhannu’r bil mewn bwyty.

  • Defnyddir adio (+) pan rydych eisiau canfod cyfanswm dau swm neu fwy.
  • Defnyddir tynnu (−) pan rydych eisiau canfod y gwahaniaeth rhwng dau swm, neu faint sydd gennych yn weddill ar ôl defnyddio maint penodol. Er enghraifft, os ydych eisiau canfod faint o newid sy’n ddyledus ichi ar ôl gwario swm o arian.
  • Hefyd defnyddir lluosi (×) ar gyfer cyfansymiau a symiau, ond pan mae mwy nag un o’r un rhif. Er enghraifft, pe baech chi’n prynu pum pecyn o afalau sy’n costio £1.20 yr un, i ganfod cyfanswm yr arian y byddech yn ei wario, y swm fyddai 5 x £1.20.
  • Defnyddir rhannu (÷) pan rydych yn rhannu neu’n grwpio eitemau. Er enghraifft, er mwyn canfod faint o deisennau toes y gallwch eu prynu gyda £6 os yw un deisen yn costio £1.50, byddech yn defnyddio’r swm £6 ÷ £1.50.

Gwirio cyfrifiadau

Dylech ailwirio’ch cyfrifiadau bob amser gan ddefnyddio dull arall. Mae yna ddulliau gwahanol y gallwch eu defnyddio, a bydd yr un a ddewiswch yn dibynnu, yn ôl pob tebyg, ar y cyfrifiad.

Un ffordd dda iawn o wirio cyfrifiadau yw gwneud y cyfrifiad tuag yn ôl, neu gyfrifiad gwrthdro fel y’i galwyd yn gynharach yn y sesiwn hwn. Dyma ble rydych yn defnyddio’r math dirgroes o swm (neu’r gweithrediad dirgroes) i wirio’ch ateb:

  • Mae adio (+) a thynnu (–) yn weithrediadau dirgroes.
  • Mae lluosi (×) a rhannu (÷) yn weithrediadau dirgroes.

Os yw’ch gwiriad yn rhoi’r un ateb, mae’n golygu bod eich swm gwreiddiol yn gywir hefyd. Er enghraifft, efallai y byddwch wedi gwneud y cyfrifiad canlynol:

200 – 168 = 32

Un ffordd o’i wirio fyddai:

32 + 168 = 200

Fel arall, pe baech chi eisiau gwirio’r cyfrifiad canlynol:

80 × 2 = 160

Un ffordd o’i wirio fyddai:

160 ÷ 2 = 80

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi:

  • dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu rhifau positif, eu rhoi mewn trefn a’u cymharu
  • edrych ar ffyrdd gwahanol o ddefnyddio rhifau negatif mewn bywyd pob dydd
  • gwneud cyfrifiadau
  • dysgu sut i ddefnyddio’r dull gwrthdro i wirio atebion.