3 Ffracsiynau
Beth yw ffracsiwn?
Diffiniad ffracsiwn yw rhan o gyfan. Felly er enghraifft, mae , neu ‘draean’ yn un rhan o dair rhan, pob un o faint hafal.
Mae ffracsiynau’n un o nodweddion pwysig bywyd pob dydd. Gallen nhw sicrhau y cewch y fargen orau wrth siopa – neu y cewch y darn mwyaf o pizza! Wrth ichi fynd drwy’r adran hon, byddwch yn gweld sut y gellid defnyddio ffracsiynau pan rydych chi’n siopa neu yn y gweithle.
Mae ffracsiynau’n perthyn i ddegolion a chanrannau, y byddwch yn edrych arnyn nhw yn yr adrannau sy’n dilyn hon.
Bydd yr adran hon yn eich helpu i:
- roi trefn ar ffracsiynau a’u cymharu
- canfod cywertheddoedd rhwng ffracsiynau
- cyfrifo rhannau o feintiau a mesuriadau cyfan (e.e. cyfrifo disgownt mewn sêl).
Edrychwch ar yr enghraifft ganlynol cyn gwneud y gweithgaredd:
Gellir ysgrifennu hanner fel h.y. un o ddwy ran hafal.
Gellir ysgrifennu chwarter fel h.y. un o bedair rhan hafal.
Gellir ysgrifennu wythfed fel h.y. un o wyth rhan hafal.
Awgrym: Enw’r rhif ar dop y ffracsiwn yw’r rhifiadur. Enw’r rhif ar waelod y ffracsiwn yw’r enwadur. Gelwir unrhyw ffracsiwn â rhif 1 ar y top yn ‘ffracsiwn uned’, felly mae , and er enghraifft, yn ffracsiynau uned.
Efallai na fydd 1 ar ben y ffracsiwn. Er enghraifft, ystyr yw ‘dwy ran o dair’ neu ‘dau draean’.
Enghraifft: Lle mae ewyllys, mae ffracsiwn
Mae Arglwydd Walton yn llunio ewyllys i bennu pwy fydd yn etifeddu stad y teulu. Mae’n bwriadu gadael y stad i’w fab, i’w ferch a i’w frawd.
- Pwy sy’n cael y gyfran fwyaf?
- Pwy sy’n cael y gyfran leiaf?
Dull
Pan mai 1 yw rhifiadur pob ffracsiwn, po fwyaf yw enwadur y ffracsiwn, lleiaf yw’r ffracsiwn.
Gan edrych ar yr enghraifft uchod, gellir rhoi’r ffracsiynau yn nhrefn eu maint gan ddechrau gyda’r lleiaf:
, ,
Felly:
- Mae’r gyfran fwyaf () yn mynd i’w fab.
- Mae’r gyfran leiaf () yn mynd i’w frawd.
Os gofynnir ichi roi grŵp o ffracsiynau yn nhrefn eu maint, weithiau mae’n helpu i newid yr enwaduron i’r un rhif. Gellir gwneud hyn trwy chwilio am y lluosrif cyffredin lleiaf – hynny yw, y rhif mae’r holl enwaduron yn lluosrifau ohono.