Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4 Ffracsiynau o symiau

Edrychwch ar yr enghreifftiau canlynol, sy’n dangos sut y byddech yn canfod ffracsiwn o swm.

Enghraifft: Canfod ffracsiynau

Sêl

Described image
Ffigur 18 Ffracsiynau mewn sêl

Dyweder eich bod yn mynd i mewn i siop i brynu ffrog. Fel arfer byddai’n costio £90, ond heddiw mae yn y sêl ‘gostyngiad o ‘one divided by three. Faint o ostyngiad fyddech chi’n ei gael?

Dull

TY rheol sylfaenol ar gyfer canfod ffracsiwn uned o swm yw rhannu â nifer y rhannau (y rhif ar waelod y ffracsiwn) a lluosi’r canlyniad â’r rhif ar dop y ffracsiwn. Mae gweithio allan gostyngiad o one divided by three ar £90 yr un peth â:

£90 ÷ 3 = £30

Y swm yw £30 × 1 = £30, felly byddech chi’n cael gostyngiad o £30.

Arolwg

Mewn arolwg, dywedodd three divided by four o’r ymatebwyr yr hoffent gadw’r bunt fel arian cyfredol y Deyrnas Unedig. Os ymatebodd 800 o bobl i’r arolwg, faint o bobl oedd eisiau cadw’r bunt?

Dull

Eto, i ganfod ffracsiwn o swm, mae angen ichi rannu â’r rhif ar waelod y ffracsiwn ac yna lluosi’r canlyniad â’r rhif ar dop y ffracsiwn:

Er mwyn ateb hwn, bydd angen ichi weithio allan yn gyntaf beth yw one divided by four o 800 o bobl.

one divided by four o 800 = 800 ÷ 4 = 200

Yna defnyddiwch y rhifiadur (top y ffracsiwn) i gyfrifo faint o’r unedau ffracsiwn hynny mae eu hangen:

three divided by four o 800 = 3 × 200 = 600

Felly roedd 600 o bobl eisiau cadw’r bunt.

Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 22: Talu mewn rhandaliadau

Described image
Ffigur 19 Faint fyddai estyniad yn ei gostio?

Mae teulu yn bwriadu cael ymestyn y gegin.

Cost y prosiect hwn yw £12 000.

Mae’r adeiladwr maen nhw wedi’i ddewis i wneud y gwaith wedi gofyn am i’r arian gael ei dalu fesul cam:

  1. Mae angen talu one divided by five o’r arian cyn dechrau’r prosiect.
  2. Caiff two divided by three o’r arian ei dalu mis yn ddiweddarach.
  3. Caiff gweddill yr arian ei dalu pan fydd yr estyniad wedi’i adeiladu.

Faint o arian mae’r adeiladwr yn gofyn amdano yn ystod cam 1 a cham 2?

Ateb

I weithio allan one divided by five o £12 000 mae angen ichi rannu £12 000 â 5.

  • 12 000 ÷ 5 = 2 400

Nawr lluoswch hwn â’r rhif ar dop y ffracsiwn:

  • 2 400 × 1 = £2 400

Felly yng ngham 1 bydd ar yr adeiladwr angen £2 400.

I weithio allan two divided by three o £12 000 mae angen ichi weithio allan yn gyntaf beth yw one divided by three o £12 000. I wneud hyn mae angen ichi rannu £12 000 â 3.

  • 12 000 ÷ 3 = 4 000

Nawr mae angen ichi weithio allan two divided by three o £12 000 felly rydych yn lluosi â’r rhif ar dop y ffracsiwn:

  • 4 000 × 2 = 8 000

Felly yng ngham 2 bydd ar yr adeiladwr angen £8 000.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i:

  • ganfod cywertheddoedd mewn ffracsiynau
  • rhoi ffracsiynau mewn trefn a’u cymharu
  • canfod ffracsiwn o swm.

Gellir defnyddio’r sgiliau a restrir uchod pan rydych chi’n siopa ac yn ceisio dod o hyd i’r fargen orau, neu pan rydych chi’n rhannu cacen neu pizza, dyweder, yn ddarnau hafal.

Mae’n bwysig gallu cymharu ffracsiynau, degolion a chanrannau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Byddwch yn edrych ar ganrannau yn nes ymlaen, ond yn gyntaf gallwch edrych ar ddegolion.