Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Degolion

Described image
Ffigur 20 Edrych ar ddegolion

Allwch chi feddwl am unrhyw enghreifftiau lle byddwch o bosibl yn dod ar draws rhifau degol mewn bywyd pob dydd?

Os ydych chi’n ymdrin ag arian a dyw’r pwynt degol ddim wedi’i leoli’n gywir, bydd y gwerth yn gwbl wahanol. Er enghraifft, gellid camddeall £5.55 fel £55.50.

Yn yr un modd gyda phwysau a mesuriadau: os yw’r adeiladwr yn y gweithgaredd diwethaf yn camfesur, gallai hynny effeithio ar yr holl estyniad i’r gegin.

Bydd yr adran hon yn eich helpu i ddeall:

  • gwerth digid mewn rhif degol
  • ffyrdd o wneud cyfrifiadau gyda rhifau degol
  • atebion bras i gyfrifiadau sy’n cynnwys rhifau degol.

Rydych wedi edrych ar werth lle yn yr adran ar rifau cyfan. Nawr byddwch yn edrych ar ddegolion.

Described image
Ffigur 21 Beth yw pwynt degol?

Felly beth yw pwynt degol?

Mae’n gwahanu rhif i’w rif cyfan a’i ran ffracsiynol. Felly yn yr enghraifft uchod, 34 yw’r rhif cyfan, a’r saith – neu 0.7, fel y câi ei ysgrifennu – yw’r rhan ffracsiynol.

Mae gan bob digid mewn rhif werth sy’n dibynnu ar ei safle yn y rhif. Dyma ei werth lle:

Rhan rhif cyfan.Rhan ffracsiynol
MiloeddCannoeddDegauUnedau.DegfedauCanfedauMilfedau
1000s100s10s1s.one divided by 10sone divided by 100sone divided by 1,000s

Edrychwch ar yr enghreifftiau hyn, lle caiff y rhif ar ôl y pwynt degol ei ddangos fel ffracsiwn hefyd:

5.1 = 5 ac one divided by 10

67.2 = 67 a two divided by 10

8.01 = 8 ac one divided by 100

Enghreifftiau: Canfod gwerthoedd

Pe baech chi’n chwilio am werth lle pob digid yn y rhif 451.963, beth fyddai’r ateb?

CannoeddDegauUnedau.DegfedauCanfedauMilfedau
451.963

Felly’r ateb yw:

4 o gannoedd

5 o ddegau

1 uned

9 o ddegfedau (nine divided by 10)

6 o ganfedau (six divided by 100)

3 o filfedau (three divided by one 000)

Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 23: Posau degol

  1. Aiff pedwar plentyn i’r ffair. Mae gan un o’r reidiau, yr Olwyn Fawr, y rhybudd canlynol arni:
    • Er diogelwch, rhaid i blant fod yn dalach na 0.95 m i fynd ar y reid hon.
  • Mae Marged yn 0.85 m o daldra.
  • Mae Dai yn 0.99 m o daldra
  • Mae Suha yn 0.89 m o daldra.
  • Mae Prabha yn 0.92 m o daldra.
  • Pwy sy’n cael mynd ar y reid?
  1. Mae chwe athletwr yn rhedeg mewn ras. Mae eu hamserau, mewn eiliadau, fel a ganlyn:
Sonia10.95
Anjali10.59
Anita10.91
Aarti10.99
Sita10.58
Susie10.56
  • Pwy sy’n ennill y medalau aur, arian ac efydd?
  1. Mewn cystadleuaeth gymnasteg, rhoddwyd y pwyntiau canlynol i’r pedwar cystadleuydd. Pwy ddaeth yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd?
Janak23.95
Nadia23.89
Carol23.98
Tracey23.88

Ateb

  1. Caiff unrhyw blentyn sy’n fwy na 0.95 m o daldra fynd ar y reid. Felly er mwyn ateb y cwestiwn, mae angen ichi gymharu taldra pob plentyn â 0.95 m.
DegfedauCanfedau
Marged85
Dai99
Suha89
Prabha92
  • Mae cymharu’r degfedau yn dweud wrthym mai dim ond dau blentyn fydd efallai’n cael mynd ar y reid, sef Dai a Prabha.
  • Os awn ni ymlaen i gymharu’r canfedau, gwelwn mai dim ond Dai sy’n dalach na 0.95 m.
  • Felly dim ond Dai fyddai’n cael mynd ar yr Olwyn Fawr.
  1. Mae angen ichi gymharu’r degau, unedau, degfedau a chanfedau, yn y drefn honno.
DegauUnedau.DegfedauCanfedau
Sonia10.95
Anjali10.59
Anita10.91
Aarti10.99
Sita10.58
Susie10.56
  • Mae’r un nifer o ddegau ac unedau gan yr holl amserau, felly mae angen mynd ymlaen i gymharu’r degfedau.
  • Y tri amser â’r nifer leiaf o ddegfedau yw 10.59 (Anjali), 10.58 (Sita) a 10.56 (Susie). Os awn ymlaen yn awr i gymharu’r canfedau yn y tri amser hyn, gwelwn mai’r amserau lleiaf yw (lleiaf yn gyntaf): 10.56, 10.58 a 10.59.
  • Felly mae’r medalau’n mynd i:
    • Susie (10.56 eiliad): aur
    • Sita (10.58 eiliad): arian
    • Anjali (10.59 eiliad): efydd
  1. Eto, mae angen inni gymharu’r degau, unedau, degfedau a chanfedau, yn y drefn honno.
DegauUnedau.DegfedauCanfedau
Janak23.95
Nadia23.89
Carol23.98
Tracey23.88
  • Mae gan yr holl sgoriau’r un nifer o ddegau ac unedau. O edrych ar y degfedau, mae gan ddwy sgôr (23.95 a 23.98) 9 o ddegfedau. Os ydych chi’n cymharu’r canfedau yn y ddau rif hyn, gallwch weld bod 23.98 yn fwy na 23.95.
  • I ganfod y rhif mwyaf ond dau, ewch yn ôl i’r ddau rif arall, 23.89 a 23.88. O gymharu’r canfedau, gallwch weld mai 23.89 yw’r rhif mwyaf. Felly’r tri chystadleuydd gorau yw:
    • Carol (23.98)
    • Janak (23.95)
    • Nadia (23.89)