Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Cywertheddoedd rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau

Mae ffracsiynau, degolion a chanrannau yn ffyrdd gwahanol o ddweud yr un peth. Mae’n sgil pwysig dysgu am y perthnasoedd (neu ‘gywertheddoedd’) rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y fargen orau.

Described image
Ffigur 31 Edrych ar gywertheddoedd

Dyma rai cywertheddoedd cyffredin. Ceisiwch eu dysgu ar eich cof – byddwch yn dod ar eu traws yn aml mewn sefyllfaoedd pob dydd:

10% = one divided by 10 = 0.1

20% = one divided by five = 0.2

25% = one divided by four = 0.25

50% = one divided by two = 0.5

75% = three divided by four = 0.75

100% = 1 = 1.0

Edrychwch ar yr enghraifft ganlynol. Os gallwch adnabod cywertheddoedd, bydd yn haws ichi wneud cyfrifiadau syml.

Enghraifft: Cymera’ i hanner

Beth yw 50% o £200?

Dull

Gan fod 50% yr un peth â one divided by two, felly:

50% o £200 = one divided by two o £200 = £100

Dylech gyfeirio at y cywertheddoedd cyffredin uchod (os oes angen) i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 36: Chwilio am gywertheddoedd

  1. Beth yw 0.75 fel ffracsiwn?

  2. Os ydych chi’n cerdded 0.25 km pob dydd, pa ffracsiwn o gilometr ydych chi wedi ei gerdded?

  3. Mae prisiau tai wedi codi one divided by two yn y pum mlynedd diwethaf. Beth yw’r cynnydd hwn fel canran?

  4. Mae siop tasgau’r cartref yn cynnal sêl ‘gostyngiad o 50%’ ar geginau. Beth yw’r disgownt hwn fel ffracsiwn?

  5. Rydych yn prynu hen fwclis am £3 000. Ar ôl deng mlynedd, mae eu gwerth wedi cynyddu 20%. Beth yw’r cynnydd hwn fel degolyn?

  6. Mae pennawd yn darllen ‘Rhagweld y bydd nifer y siaradwyr Cymraeg yn codi 10%’. Beth yw’r cynnydd hwn fel ffracsiwn?

  7. Pa ganran o awr yw 15 munud?

Ateb

  1. 0.75 fel ffracsiwn yw three divided by four.

  2. Mae 0.25 yr un peth â one divided by four, felly byddwch wedi cerdded one divided by four cilometr.

  3. Mae one divided by two yr un peth â 50%, felly 50% yw’r cynnydd.

  4. Mae 50% yr un peth â one divided by two, felly’r disgownt fel ffracsiwn yw one divided by two.

  5. Mae 20% yr un peth â 0.2, felly’r cynnydd fel degolyn yw 0.2

  6. Mae 10% yr un peth â one divided by 10, felly yn ôl y pennawd, rhagwelir y bydd y nifer yn codi one divided by 10.

  7. Meddyliwch am hwn fel ffracsiwn yn gyntaf: mae 15 munud yn chwarter (one divided by four) awr. Mae one divided by four yr un peth â 25%, felly mae 15 munud yn 25% o awr.

Os ydych chi’n cael trafferth i ddeall sut i drosi, dylech edrych ar yr adnodd canlynol:

Download this video clip.Video player: bltl_decimals_welsh_boards.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Crynodeb

Mae’n bwysig gwybod y cywertheddoedd cyffredin rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau pan rydych chi’n ceisio cymharu disgowntiau wrth siopa neu wrth ddewis tariff pan rydych chi’n talu’ch biliau.