Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Cymarebau

Ynghyd â chyfrannedd (y byddwch yn edrych arni yn yr adran nesaf), rydych chi’n defnyddio cymarebau yn eich gweithgareddau pob dydd fel garddio, coginio, glanhau a thasgau’r cartref.

Described image
Ffigur 32 Siarad am gymarebau

Cymhareb yw lle mae un rhif yn lluosrif o’r llall. I gael gwybod mwy am gymarebau, darllenwch yr enghraifft ganlynol.

Enghraifft: Sut i ddefnyddio cymarebau

Dyweder bod angen ichi wneud un litr (1 000 ml) o hydoddiant cannydd. Er mwyn creu hydoddiant, mae’r label yn dweud bod angen ichi ychwanegu un rhan o gannydd i bedair rhan o ddŵr.

1 i 4 yw’r gymhareb hon, neu 1:4. Mae hyn yn golygu y bydd yr hydoddiant cyfan yn cynnwys:

Un rhan + pedair rhan = pum rhan

Os oes arnom angen 1 000 ml o hydoddiant, mae hyn yn golygu bod un rhan yn:

1 000 ml ÷ 5 = 200 ml

Mae angen gwneud yr hydoddiant fel a ganlyn:

Cannydd: un rhan × 200 ml = 200 ml

Dŵr: pedair rhan × 200 ml = 800 ml

Felly i wneud un litr (1 000 ml) o hydoddiant, bydd angen ichi ychwanegu 200 ml o gannydd i 800 ml o ddŵr.

Gallwch wirio’ch ateb trwy adio’r ddau swm at ei gilydd. Dylent fod yn hafal i gyfanswm yr hydoddiant mae ei angen:

200 ml + 800 ml = 1 000 ml

Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 37: Defnyddio cymarebau

  1. Mae 17 o fyfyrwyr mewn dosbarth: mae deg yn wrywod a saith yn fenywod. Ysgrifennwch y gymhareb o fyfyrwyr gwryw i fenyw.
  2. 3:1 yw’r gymhareb o dywod i sment mae ei hangen i wneud concrid.

    Os oes gennych 40kg o sment, faint o dywod ddylai fod gennych?

  3. Darllenwch y label oddi ar botel o hylif tynnu papur wal:

    • Gwanedu: ychwanegwch 1 rhan o’r hylif tynnu papur wal i 7 rhan o ddŵr.

    Faint o hylif tynnu papur wal a dŵr mae ei angen i wneud 16 litr o hydoddiant?

  4. I wneud hydoddiant o liwydd gwallt mae angen ichi ychwanegu un rhan o’r lliwydd gwallt i bedair rhan o ddŵr. Faint o liwydd gwallt a dŵr mae ei angen i wneud 400 ml o hydoddiant?

Ateb

  1. 10:7
  2. Mae cymhareb o 3:1 yn golygu tair rhan o dywod i un rhan o sment, sy’n gwneud cyfanswm o bedair rhan. Os yw’r sment (un rhan) yn 40kg, yna bydd y tywod (tair rhan) yn:
    • 3 × 40 kg = 120 kg
  3. Mae cymhareb o 1:7 yn golygu un rhan o hylif tynnu papur wal i saith rhan o ddŵr, gan greu cyfanswm o wyth rhan.

    Mae arnom angen 16 litr o hydoddiant. Os yw wyth rhan yn werth 16 litr, mae hyn yn golygu bod un rhan yn werth:

    • 16 litr ÷ 8 = 2 litr

    Felly ar gyfer 16 litr o hydoddiant mae angen:

    • Hylif tynnu papur wal: un rhan × 2 litr = 2 litr

      Dŵr: saith rhan × 2 litr = 14 litr

    Gallwch gadarnhau bod y ffigurau hyn yn gywir trwy eu hadio a gwirio eu bod yr un peth â’r maint mae ei angen:

    • 2 litr + 14 litr = 16 litr
  4. Mae’r gymhareb o 1:4 yn golygu un rhan o liwydd gwallt i bedair rhan o ddŵr, gan wneud cyfanswm o bum rhan.

    Mae arnom angen 400 ml o hydoddiant. Os yw pum rhan yn werth 400 ml, mae hyn yn golygu bod un rhan yn werth:

    • 400 ml ÷ 5 = 80 ml

    Felly ar gyfer 400 ml o hydoddiant mae angen:

    • Lliwydd gwallt: un rhan × 80 ml = 80 ml

      Dŵr: pedair rhan × 80 ml = 320 ml

    Gallwch gadarnhau bod y ffigurau hyn yn gywir trwy eu hadio a gwirio eu bod yr un peth â’r maint mae ei angen:

    • 80 ml + 320 ml = 400 ml

Crynodeb

Rydych yn awr wedi dysgu sut i ddefnyddio cymarebau i ddatrys problemau mewn bywyd pob dydd. Gallai hyn fod pan rydych chi’n cymysgu concrid, lliwydd gwallt neu hylif golchi ffenestr flaen. Allwch chi feddwl am ragor o enghreifftiau pan fyddai angen defnyddio cymarebau?