Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Cyfrannedd

Defnyddir cyfrannedd i gynyddu neu leihau meintiau â’r un gymhareb. Dangosir hyn yn yr enghraifft ganlynol – beth sy’n digwydd os ydych eisiau addasu’ch hoff rysáit i fod yn ddigon i fwy o bobl?

Enghraifft: Defnyddio cyfrannedd ar gyfer mwy o ddognau...

Described image
Ffigur 33 Teisen

Dyma rysáit i wneud teisen sbwng i bedwar o bobl:

4 owns o flawd codi

4 owns o siwgr mân

4 owns o fenyn

2 wy

Faint o bob cynhwysyn mae ei angen i wneud teisen i wyth o bobl?

Dull

Er mwyn gwneud teisen i wyth o bobl, bydd angen dwywaith cymaint o bob cynhwysyn:

8 owns o flawd codi (4 × 2)

8 owns o siwgr mân (4 × 2)

8 owns o fenyn (4 × 2)

4 wy (2 × 2)

Defnyddiwch yr enghraifft uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 38: Mwyhau ryseitiau’n gymesur

  1. Mae’r rysáit hon yn gwneud deg cwci mawr:

    • 220 g o flawd codi
    • 150 g o fenyn
    • 100 g o siwgr mân
    • 2 wy

    Faint o bob cynhwysyn sydd ei angen i wneud 20 cwci?

  2. Mae’r rysáit hon yn gwneud pedwar dogn o ysgytlaeth mefus:

    • 800 ml o laeth
    • 200 g o fefus
    • 4 llwy o hufen iâ

    Faint o bob cynhwysyn sydd ei angen i ddau berson?

  3. Mae’r rysáit hon yn gwneud pwdin i ddau berson:

    • 300 ml o laeth
    • 60 g o bowdr

    Faint o bob cynhwysyn sydd ei angen i wneud digon i chwech o bobl?

Ateb

  1. I wneud 20 o gwcis, mae arnoch angen dwywaith cymaint o bob cynhwysyn:
    • 440 g o flawd (220 × 2)
    • 300 g o fenyn (150 × 2)
    • 200 g o siwgr (100 × 2)
    • 4 wy (2 × 2)
  2. I wneud digon o ysgytlaeth i ddau berson, mae arnoch angen hanner cymaint o bob cynhwysyn:
    • 400 ml o laeth (800 ÷ 2)
    • 100 g o fefus (200 ÷ 2)
    • 2 lwy o hufen iâ (4 ÷ 2)
  3. I wneud pwdin i chwech o bobl, mae arnoch angen tair gwaith cymaint o bob cynhwysyn:
    • 900 ml o laeth (300 × 3)
    • 180 g o bowdr (60 × 3)

Pan fyddwch wedi gwirio’ch atebion ac wedi cael pob un yn gywir, rhowch gynnig ar y gweithgaredd nesaf.

Gweithgaredd 39: Edrych ar gymhareb a chyfrannedd

Noder: Ni chaniateir defnyddio cyfrifiannell

  1. Mae label ar botel hylif gwynnu llenni’n dweud y dylech ychwanegu un rhan o’r hylif gwynnu llenni crynodedig i naw rhan o ddŵr.

    Faint o hylif gwynnu llenni a dŵr mae ei angen i wneud 2 000 ml o hydoddiant?

  2. Dyma rysáit risoto braster-isel i ddau berson:

    • 200 g o fadarch
    • 175 g o reis
    • 180 ml o ddŵr
    • 180 ml o laeth anwedd
    • Halen a phupur

    Faint o bob cynhwysyn mae ei angen os ydych eisiau coginio digon o risoto i chwech o bobl?

Ateb

  1. Mae cymhareb o 1:9 yn golygu un rhan o hylif gwynnu llenni i naw rhan o ddŵr, sy’n gwneud cyfanswm o ddeg rhan.

    Mae arnoch angen 2 000 ml o hydoddiant. Os yw deg rhan yn werth 2 000 ml, mae hyn yn golygu bod un rhan yn werth:

    • 2 000 ml ÷ 10 = 200 ml

    Felly ar gyfer 2 000 ml o hydoddiant mae angen:

    • Hylif gwynnu llenni: un rhan × 200 ml = 200 ml

      Dŵr: naw rhan × 200 ml = 1 800 ml

    Gallwch gadarnhau bod y ffigurau hyn yn gywir trwy eu hadio a gwirio eu bod yr un peth â’r maint mae ei angen:

    • 200 ml + 1 800 ml = 2 000 ml
  2. I wneud digon o risoto i chwech o bobl, mae arnoch angen tair gwaith cymaint o bob cynhwysyn:
    • 600 g o fadarch (200 × 3)
    • 525 g o reis (175 × 3)
    • 540 ml o ddŵr (180 × 3)
    • 540 ml o laeth anwedd (180 × 3)

Crynodeb

Yn yr adran hon rydych wedi dysgu sut i ddefnyddio cyfrannedd i ddatrys problemau syml mewn bywyd pob dydd, er enghraifft wrth addasu ryseitiau.