Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 1: Gweithio gyda rhifau

Cyflwyniad

Mae’n anodd iawn ymdopi â bywyd pob dydd heb ddealltwriaeth sylfaenol o rifau.

Gall cyfrifiannell fod yn ddefnyddiol iawn, er enghraifft i’ch helpu i wirio’ch gwaith cyfrifo neu i drosi ffracsiynau’n ddegolion.

Er mwyn cwblhau’r gweithgareddau yn y cwrs hwn bydd arnoch angen papur nodiadau, ysgrifbin i gymryd nodiadau a gwneud cyfrifiadau a chyfrifiannell.

Mae Sesiwn 1 yn cynnwys llawer o enghreifftiau o rifedd o fywyd pob dydd, gyda llawer o weithgareddau dysgu cysylltiedig â nhw sy’n cynnwys rhifau cyfan, ffracsiynau, degolion, canrannau, cymarebau a chyfrannedd.

Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:

  • gweithio gyda rhifau cyfan
  • talgrynnu
  • deall ffracsiynau, degolion a chanrannau, a’r cywertheddoedd rhyngddynt
  • defnyddio cymarebau a chyfrannedd
  • deall fformwlâu geiriau a pheiriannau ffwythiant.
Download this video clip.Video player: a49_units_welsh_boards.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).