Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Strwythur y cwrs

Mae pum adran i'r cwrs hwn, gyda phob un yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar ofalu am oedolion:

  1. Cyfathrebu da [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   - mae'n edrych ar ffyrdd o gyfathrebu, gwella eich sgiliau gwrando a rhyngbersonol, a chofnodi ac adrodd.

  2. Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl - mae'n ystyried mathau o broblemau iechyd meddwl a sut maent yn effeithio ar y person sy'n derbyn gofal a rôl y gofalwr.

  3. Gofal lliniarol a gofal diwedd oes - mae'n archwilio sut y darperir gofal i bobl sy'n cael gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a beth yw ystyr marwolaeth dda.

  4. Cymryd risgiau cadarnhaol - mae'n egluro pam ei bod yn bwysig cydbwyso hunanofal â chymryd risgiau cadarnhaol er mwyn hyrwyddo bywyd mwy bodlon i'r person sy'n derbyn gofal.

  5. Gofalu amdanoch eich hun - mae'n edrych ar bwysigrwydd sicrhau bod gofalwyr yn gofalu am eu lles corfforol ac emosiynol eu hunain a ffyrdd o reoli straen.

Gyda'i gilydd, maent yn creu amser astudio o tua 15 awr. Mae pob adran yn cynnwys cymysgedd o ddeunydd darllen, clipiau fideo, gweithgareddau a chwisiau a fydd yn eich helpu i ymgysylltu â chynnwys y cwrs.

Bydd adran arall, Datblygu fy nysgu ymhellach, yn eich galluogi i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn. Mae hefyd yn eich cyfeirio at wefannau ac adnoddau perthnasol, sydd hefyd yn ymwneud â'r broses o ddatblygu eich dysgu a'ch rhagolygon gyrfa.

Mae Gofalu am oedolion wedi'i gynllunio i'ch galluogi i ddefnyddio'r adnoddau fel y mynnwch, gan astudio fesul tipyn er mwyn cyd-fynd â'ch gwaith a'ch ymrwymiadau mewn bywyd. Os byddwch yn dewis cwblhau pob adran o Gofalu am oedolion a chasglu'r gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi sy'n cydnabod eich cyflawniad. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol i'w ddangos i'ch cyflogwr fel tystiolaeth o'ch dysgu.

Gwe-lywio'r wefan

Gallwch ganfod eich ffordd o amgylch y cwrs hwn drwy glicio ar y dolenni. Mae'r hafan yn cynnwys dolenni i'r holl adrannau, cwisiau ac adnoddau perthnasol. Pan fyddwch mewn adran, bydd y ddewislen ar yr ochr chwith yn cynnwys dolenni i bynciau'r adran honno a'r cwis cysylltiedig. Mae'r ddewislen hefyd yn cynnwys dolenni i adrannau eraill o Gofalu am oedolion ac i'r adran adnoddau.

Os nad ydych yn siŵr, gallech ymarfer drwy hofran eich llygoden uwchlaw dolen yn y ddewislen a chlicio arni. Dyma'r ffordd hawsaf o symud o un dudalen i'r llall. Gallwch hefyd glicio ar y ddolen 'Nesaf: … ’ ar waelod pob tudalen o destun. Peidiwch â phoeni am dorri dolen na difrodi'r we-dudalen – ni fydd hynny'n digwydd. Rhowch gynnig arni cyn gynted â phosibl cyn i chi ddechrau astudio.