Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Pam dylech chi astudio'r cwrs hwn?

Nawr, bydd John Rowe, un o awduron y cwrs hwn, yn rhoi ychydig o gefndir i chi am y rheswm pam y gallech fod am astudio'r cwrs hwn.

Download this video clip.Video player: Croeso a chyflwyniad gan yr awdur
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Croeso a chyflwyniad gan yr awdur
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Os ydych eisoes yn ofalwr, bydd yn ddefnyddiol i chi ystyried sut mae eich rôl a'ch profiad yn cyd-fynd â'r pynciau a gwmpesir yn y cwrs. Bydd y gweithgareddau wedi'u llywio drwy gydol y cwrs hwn yn eich helpu i ddysgu a myfyrio ar eich rôl eich hun. Os oes gennych rôl gofalu gyflogedig, bydd cwblhau Gofalu am oedolion yn eich galluogi i ddangos eich dealltwriaeth o'r hyn mae'n ei olygu i fod yn ofalwr i'ch cyflogwr. Gallai eich cyflogwr hefyd ofyn i chi astudio'r cwrs hwn fel rhan o'ch rhaglen sefydlu ar gyfer rôl newydd, neu ar gyfer eich datblygiad proffesiynol.

Er mai ar gyfer gofalwyr y mae'r cwrs hwn yn bennaf, mae hefyd yn ystyried rhai problemau a wynebir gan ofalwyr a phobl sy'n derbyn gofal fel ei gilydd, er enghraifft straen, blinder, iselder a gorbryder. Felly, rydym wedi neilltuo Adran 5 ar gyfer gofalu am eich iechyd a'ch lles eich hun, ac mae llawer o'r cyngor hefyd yn berthnasol i'r bobl rydych yn gofalu amdanynt.